Archifau 21 Tachwedd 2008

Manylion gig Gruff Rhys ac Euros Childs

Gareth Iwan|22:16, Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Ma Lisa newydd ddeud ar awyr bydd manylion gig Gruff Rhys ac Euros Childs ar wefan C2 yn fuan, felly dyma nhw:

Gruff Rhys ac Euros Childs

Nos Fercher, 10 Rhagfyr. (Diwrnod Hawliau Dynol)

Canolfan Morlan, Aberystwyth

Mynediad: £8.00. Tocynnau ar gael o flaen llaw o Ganolfan Morlan. 01970-617996; ymholiadau@morlan.org.uk

Ymddiheuriad i ffans Sibrydion!

Gareth Iwan|13:38, Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Neithiwr, mi oedde ni i fod i chwara caneuon oddiar albym newydd Sibrydion, ond yn anffodus, bydd rhai disgwyl ychydig. Mae'r album wedi ein cyrraedd, ond da ni am ddisgwyl tan ychydig yn agosach i'r dyddiad rhyddhau cyn dechra' chwarae'r caneuon. Sori!

Dyma 'chydig o fanylion am yr album fel rhyw fath o ymddiheuriad. Mae hi allan ar Ionawr 19, ac fe gafodd ei recordio yn Stiwdio Nen, Caerdydd. Ma na 13 trac arni, ac mi fedrwch chi glywed rhai ohonyn nhw ar myspace Sibrydion rwan. Dyma'r tracia:



  1. God Forgives, I Don't


  2. Coupe De Grace


  3. Desperados


  4. Prayin' For Rain


  5. Violent Light


  6. Shangri-La


  7. Femme Mental


  8. Summer's Gone


  9. Bleeding Heart


  10. Thirteen Days


  11. Rosalynn


  12. Reprize


  13. Campfire Mix


Sori eto

Gar