Archifau 30 Mai 2008

Huw ymhobman

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|17:28, Dydd Gwener, 30 Mai 2008

Sylwadau (0)

Heb flogio yma ers meityn. Meityn! Gair da. Yn ddiweddar ma seshyne newydd sbon wedi bod ar fy rhaglen:

  • The Gentle Good. Mae ei albym newydd ar label Gwymon yn swnio'n arbennig o'r copi cynnar sydd gennai.
  • Di Pravinho. Neis siarad gyda nhw, a chlywed y seshwn newydd sbon - fyddai'n chwarae hwn ar y sioe nos Lun.

Ar raglen nos Fawrth nesa fyddai'n siarad gyda Threatmantics a Georgia Ruth Williams sydd drwodd i'r llwyfan Introducing yn Glastonbury, gyda lot o fandiau erill yn chware hefyd, yn cynnwys Picture Books in Winter, ffefrynnau Bethan Elfyn ar Radio 1 yng Nghymru.

Fi di bod yn teithio dipyn yn ddiweddar. Ro'n i yn Kent i Benwythnos Mawr Radio 1, yn Brighton ar gyfer gŵyl Great Escape, ac yn ddiweddar es i i DJo yn York. Lot o hwyl, lot o gerddoriaeth.

Fi di bod yn mwynhau rhaglenni Rhys Mwyn yn ddiweddar fan hyn ar C2. Os chi'n ffan a heb ddarllen ei hunangofiant, mae werth gwneud.

Sws mawr,

Huw

YPDET:mae sesiwn Di Pravinho ar wefan C2 nawr!

Rhestr traciau y Genod Droog

Categorïau:

Criw C2|14:50, Dydd Gwener, 30 Mai 2008

Sylwadau (1)

Genod Droog

Helo bawb

Da ni gam (bach) yn agosach at y foment fawr - gweld albym y Genod Droog yn y siopa. Bore ma fe gafodd Lisa restr y traciau fydd ar yr albym:

  1. Gwn tatws
  2. Bomiwch y byd
  3. Candy Jones
  4. Genod Droog Theme
  5. Dal ni lawr
  6. Creu copa newydd
  7. Creu terfysg
  8. Breuddwyd oer
  9. Llong pleser
  10. Y gig mawr yn yr awyr
  11. Cân y brân

A heno, mi fydd gan Lisa newyddion exclusive a diddorol iawn am gynlluniau'r grŵp am y dyfodol.

Hwyl, Gar