Archifau 17 Ionawr 2008

Be i wisgo y tymor hwn.....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|18:18, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Ma Ionawr yn fis digon anodd o ran prynu dillad. A dwi'n gweld gwario arian ar ddillad Y peth hawsa yn y byd - felly ma hwna yn ddweud mawr. Ond ym mis Ionawr - ma gymaint o sbwriel yn y siope achos y sêls. A fi'n un o'r bobol yna sy'n meddwl bo prynu boob tube gwyrdd gyda streips aur yn syniad da achos mae'n "fargen" a wedyn ma fe'n ymuno gyda gweddill y "bargenion" yng ngwaelod fy wardrob. A dyna lle ma fe'n aros.

Felly i arbed fy hun rhag prynu boob-tube arall, nes i wahodd y steilydd a'r cynllunydd dillad Betsan Rees mewn i'r stwidio atai nos Lun i weud wrthai be sy'n mynd i fod yn ffasiynol y tymor hwn…



Felly - dyma oedd tips fasiwn gwanwyn 2008 ym marn y steilydd Betsan Rees;

TIP GORE BESTAN

Trowsus neu jins coes llydan

Yn ol Betsan, dyma siâp y tymor. Ma nhw'n edrych yn dda dim ots be yw siap eich corff, sy'n newyddion da i bawb nad oedd yn gallu ffitio mewn i sgini jins! (h.y - fi!)

Dyma be arall ddyliwch chi gael yn eich cwpwrdd dillad;

* Bows a Ffrils



* Streips




* Siacedi dynol

* Broderie Anglais

* Ffrogie gyda phatrymau blodeuog

* Monochrome (du a gwyn)

* Lliw mwstard



* Ffrogie byr gyda choler Peter Pan




* Ffrogie hir bo-ho chic

Reit - fi off i'r dre i brynu Jins coes llydan a chrys lliw mwstard gyda bow arno! Watcha dy hun Kate Moss - ma Magi Dodd yn llygadu dy goron fel eicon ffasiwn 2008!

Fi a Cerys Matthews!

Categorïau:

Dafydd Du|18:10, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Nath dydd Mawrth ddim cychwyn yn dda iawn. Ar ol dim ond pedair awr o gwsg nes i gychwyn ar y daith o Gaerdydd i Sir Benfro i gyfweld â Cerys Matthews. Mi o'n ni'n gwisgo crys pinc oedd i fod yn wyn, ond mi oedd rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i'r crys yn y peiriant golchi.

Mi oedd y tywydd yn ofnadwy ar hyd yr M4, ond wrth i mi gyrraedd Caerfyrddin, mi gododd y cymylau a mi ddaeth yr haul allan, a mi oeddwn i'n gwybod y byddai'n braf yn Sir Benfro.

Mi oeddwn i wedi trefnu cyfarod â Cerys yn nhafarn y Sloop, Porthgain, ac am 'change' mi oeddwn i ddeg munud yn fuan yn cyrraedd. Pan wnaeth Cerys gerdded i fewn i'r dafarn mi oedd hi'n edrych yn 'fab' yn ei du, gyda boots uchel du a menyg lledr du.

Mi oedd Cerys yn gyfelligar iawn, mi oedd hi'n agored iawn yn ystod y cyfweliad yn annwyl, a doniol. Am hanner awr mi oedd y ddau ohonom yn sgwrsio am bob dim o Elvis Presley, i beth ddigwyddodd yn y ''jungle' i'w pherthynas hi efo Marc Bannaman i'w cherddoriaeth hi.

Yn groes i'r adroddiad a ymddangosodd yn y Daily Star y diwrnod wedyn, mi oedd Cerys (a fi) yn yfed te drwy gydol y cyfweliad.

Wedi'r cyfweliad mi aethon ni allan i gymeryd cwpwl o luniau o'r ddau ohono ni efo'n gilydd. Mi oedd rhaid i mi adael yn syth wedyn i fynd yn ôl i Gaerdydd, gan adael Cerys yn cael tynnu mwy o luniau. Mi oedd hi'n swnio fel ei bod hi mewn lle hapus yn ei bywyd, a mae h'n gyffrous iawn am ei thaith a'r caneuon Cymraeg ma' hi'n wrthi'n ei sgwennu ar hyn o bryd.

Bydd cyfle i glywed y cyfweliad ar C2 nos Iau Ionawr 31 rhwng 11 a 1 o'r gloch y bore.

Dwi off i'r gogledd bore fory ar gyfer cymeryd rhan ar Uned 5 gyda fy hen ffrindiau Dylan Ebenezer a Daniel Glyn. Gewch chi glywed sut aeth hi wythnos nesaf!

Cysgwch yn dawel, a nos da!

X

Sesiwn Ryan Kift ar y ffordd...

Categorïau:

Criw C2|11:56, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Sylwadau (0)

Ma hi'n 11.25am a dwi newydd ddeffro Ryan Kift. "Nes i mond i gysgu dwyawr yn ôl" medda fo. Roc a rol…

Ffonio fo oeddwn i i gadarnhau i fod o'n dod i mewn heno i raglen Lisa i wneud sesiwn acwstic cynta'r flwyddyn. Dyma'r trefniadau - mi fydd Emyr y dyn sain yn cyrraedd tua 6pm i baratoi'r stiwdio, yna 8pm soundcheck hefo fo a Sian - just dau lais a guitar felly fe ddylai fod yn eitha hawdd. Bydd Lisa wedi cyrraedd ers ryw awr bellach, ac fe awn ni dros drefn y rhaglen hefo Ryan - ond o'i nabod o, wnaiff y trefniadau ddim para'n hir unwaith y bydda ni ar awyr.

Da ni weithia'n recordio'r sesiyna acwstic ymlaen llaw - rhai chydi yn fwy cymhleth yn dechnegol, fel Sibrydion, neu sesiwn ola KAFC oedd angen ei recordio cyn iddyn nhw fynd ar y daith ola - ond fe fydd hon yn gwbl fyw! Felly dyna ni, cofiwch am y sesiwn - heno am 10pm

DIWEDDARIAD: Mae fideo o Ryan Kift yn y stiwdio yn canu "Glaw" ar wefan C2 nawr!