Archifau 30 Mai 2007

Y sioe lwyfan gyntaf!

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Sylwadau (0)

Prynhawn heddi roedd Glyn a fi yn gwneud ein sioe lwyfan gyntaf o'r wythnos - loads o blant wedi dod yna i'n gweld ni yn son am C2, Glyn yn darllen ychydig o'i lyfr iddyn nhw, a dau dim yn canu carioci i'r gân Calon gan Diffiniad. Roedd hi mor embarassing, achos roeddwn i'n gwisgo yr run ffrog ag yr roeddwn i'n ei wisgo ar y DVD ar ddechrau'r sioe!!

Roedd y tywydd yn rili od heddi hefyd - roedd hi'n bwrw glaw trwm un funud, ac yna yn rili poeth a heulog y funud nesaf! Oleiaf doedd dim rhaid i fi fynd ar y waltzers eto heddiw!

Pwy sy'n gweud nag yw dynion yn ddiog? Cysgodd Glyn a Robin yr holl ffordd nol o Gaerfyrddin i Gaerdydd - ac roedden nhw'n chwyrnu! Roedd cymaint o fes yng nghefn y car - pacedi losin a chreision gwag, CD's, papurau newydd, cylchgronau porn... gwarthus!

Hwyl

Magi

xx

Teimlo'n Sal ar y Waltzers!

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Sylwadau (0)

Bleeeugh! Nai byth fadde i Glyn a Sian. Mi nathon nhw fforso fi i fynd ar y Waltzers a nawr fi'n teimlo'n sal. Fi wedi troi'n wyrdd a ma'r Maes yn mynd rownd a rownd!

Roeddwn i a Glyn yn cyflwyno'r cystadleuaeth roc a phop (mi ddaru Glyn anghofio enw'r beirniad Ryland Teifi - wps!) a roni dal yn teimlo'n sal.

Rodd Alun nôl o Hamburg neithiwr felly gafo ni noson bach neis. Allai ddim credu fod ni hanner ffordd drwy'r wythnos yn barod!

Hwyl

Magi

xx

Dydd Mercher yn Barod!!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Sylwadau (0)

Oooh grêt.....lie-in heddiw tan 9am. Neis. Wedi cyrraedd y steddfod, gafo ni reid mewn bygi pinc i'r Maes - diolch iti Parker! Ges i fy mobio heddiw gan blant Cymru.

Roeddwn i mewn "mood" gwirion pnawn 'ma, felly pan weles i Alun Planed Plant yn mynd mewn i'r "portaloo", ges i'r ysfa i ysgwyd y toiled a mi gafodd o dipyn o fraw dwi'n meddwl. Nes i hefyd herio Magi D i ddod ar y waltzers. Doedd hi ddim yn hoffi nhw o gwbl felly oni'n dweud wrth y boi am droi ni rownd yn gyflymach a mi roedd hi'n sgrechian i ni stopio! Mi ddaru hi droi rhyw "shade" rhyfedd iawn o wyrdd wrth gerdded off y reiden.

Roedden ni'n cyflwyno'r gystadleuaeth roc a phop pnawn 'ma - nes i rili enjoio'r bandiau. Roedd tri yn cystadlu sef Sancho Panzer, Gringo's Gwirion a Dim Eto. Llongyfarchiadau i Dim Eto o Ysgol y Preseli ddoth yn gynta.

Tan Yfory,

Glyn

xx