Archifau 31 Mawrth 2007

O Blaenau i Ynys Y Barri!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 31 Mawrth 2007

Sylwadau (0)

Nes i dreulio dechrau wythnos yma adre ym Mlaenau Ffestiniog. Nes i fawr ddim byd, ond gorffen gwylio fideos ohona fy hun ar Big Brother. Erbyn hyn dwi di gwylio pob un pennod o BB7, felly mi fydd criw C2 yn falch iawn na fydd angen i fi fynd ar Youtube byth eto yn y swyddfa i wylio clips ohonaf fy hun ar y rhaglen!

Dydd Mercher wnes i'r siwrne afiach yna ar y tren o 'Llandudno Junction' nol i Gaerdydd, ar gyfer gwneud C2 nos Fercher.

Bore dydd Iau, o ni wedi bwriadu mynd i Ikea am dro i brynu ychydig o bethau i'r fflat. Ar y ffordd yna, nath na ddwy ferch basio fi yn y car, canu corn, a stopio i ddweud helo! Ei henwau nhw oedd Kiera a Stephanie, dwy ferch ddel iawn. Natho nhw ofyn i fi lle oeddwn i'n mynd, a nes i ofyn iddyn nhw os fasa ganddyn nhw ddiddordeb dod am dro efo fi i Ynys y Barri!

Off a ni yn y car, mynd ar yr holl reids gwahanol oedd yno, gwario lot o bres yn yr amusments cyn dod nôl adre i Gaerdydd. Mi gafon ni mega hwyl, felly nathon ni benderfynu cario mlaen a mynd fewn i ganol y ddinas i glybio! Diwrnod da iawn, a cyn i chi ofyn, do nes i fynhafio!!

Dydd Gwener nes i benderfynu mynd i weld chiropractor gan fod y marathon ond wythnos i ffwrdd bellach. Wel am brofiad, dwi erioed wedi cael fy manhandlo fel yna o'r blaen! Mi ges i fy mhlygu a fy mwnio mewn i sawl siap gwahanol, ges i hyd yn oed nodwydd yn fy mhen ôl i gael gwared o 'stress'! Yn y p'nawn wedyn es i nofio gyda fy ffrindiau newydd Kiera a Stephanie, cyn mynd nôl i dy Kiera i wylio'r ffilm Skeleton Key!

Dwi'n sgwennu hwn cyn mynd i stiwdio bore Sadwrn efo Magi. Ar ôl y rhaglen dwi'n mynd am run efo fy 'personal trainer'. Dwi'n gwybod fod hi braidd yn hwyr i ddechrau cymeryd y busnes rhedeg yma o ddifri - ond fel ma nhw'n dweud, gwell hwyr na hwyrach!

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x

Dafad Ddu, tyd a lwc i Mi!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 31 Mawrth 2007

Sylwadau (0)

Wythnos yma, dwi a Imogen wedi bod yn brysur yn ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen i S4C fydd i'w gweld fis nesaf. Rhaglen ydi hi sy'n dilyn y ddau ohono ni yn ein gwaith bob dydd, a mae'n gyfle i bobl gael gwled be da ni wedi bod yn ei wneud ers gadael ty'r Brawd Mawr.

Dydd Llun diwrnod o fodlo! Mi oedd yn rhaid i fi a Imogen wneud lot o powsho mewn ty posh rhywle yng Nghaerdydd. Mi oedd rhaid i ni gael tynnu'n lluniau yn gorwedd ar wely, a hefyd mewn shower (gyda'n dillad ymlaen wrth gwrs!!) Hefyd mi wnes i lot o gyfweliadau a ateb llwyth o gwestiynau am be dwi di bod yn ei wneud dros yr wyth mis diwethaf.

Dydd Mawrth es i am run, gan fod yna llai na pythefnos i fynd rwan tan marathon Llundain. Nes i redeg i Castell Coch ac yn ôl sydd tua 16 milltir, gymerodd hi 3 awr i fi - ond mi wnes i gerdded dipyn o'r ffordd hefyd!!

Gan fod criw Fflic yn dod draw i'r fflat i ffilmio dydd Mercher, nes i benderfynu mynd lawr i Ikea i brynu 'chydig o bethau i'r ty i neud o edrych 'chydig bach yn fwy cartrefol. Nes i brynu lampau, 2 gwpwrdd a tools i'r gegin, fatha 'can opener'!! O ni wedi cerdded i Ikea a mi oedd rhain i gyd rhy drwm i fi gario nhw adre efo fi, felly nes i ffonio fy ffrind Chris i ddod draw i roi lifft adre i fi.

Tantrum cynta'r wythnos!

Pwy ddudodd fod rhoi pethau fflat back at ei gilydd yn hawdd?

Ddim fi! Ar ôl bod wrthi am ryw ddwy awr, doeddwn i dal ddim nes at roi'r cypyrddau at ei gilydd!

Os edrychwch chi'n ofalus ar fy fflat yn y rhaglen ddogfen, mi newch chi weld fod yna lwyth o ddarnau o bren a sgriws ar lawr y stafell fyw!!

Dydd Mercher mi oeddwn ni'n cael fy nilyn i bob man gan y criw camera. Mi oeddan nhw' fy ffilmio fi'n siopa, yn cael cinio, yn mynd am fake tan a hefyd mi wnaethon nhw ffilmio fi'n cyflwyno C2 efo Magi.

Mi oedd yna lwyth o chwerthin yn rhaglen nos Fercher, mi wnaeth Magi wneud hwyl ar fy mhen i pan nes i ddweud fod gweld dafad ddu mewn cae yn lwcus!! Dwi di checkio efo Mam, a mae'n debyg fod pobl Blaenau yn credu fod gweld dafad ddu yn dod a lwc, er fod Magi yn mynnu na gweld cath ddu sy'n dod a lwc i bobl!!!

Ar ôl y rhaglen mi es i â chriw C2 allan i'r bae, efo'r criw camera! Noson dda, arwahan ein bod ni wedi cael ein taflu allan o un o'r tafarndai yno! (Stori hir di honno, nai adael i Magi ddweud yr hanes!)

Dydd Iau es i allan am y dydd efo fy ffrind Darr, sy'n actio yn y gyfres i blant Tracey Beaker. Ddim yn siwr iawn lle oedden ni, ond mi wnaethon ni chwarae darts a pool drwy'r dydd.

Gyda'r nos, nes i gwrdd a criw Fflic, gan fod Lowri sy'n gweitho yna yn dathlu ei phenblwydd. Fathag arfer nes i ffansio merch ddel iawn gyda gwallt hir melyn, ond reit ar ddiwedd y noson nath hi ddweud wrthai fod ganddi gariad - typical!

Dydd Gwener, mi oedd Mam a Dad yn dod draw i aros efo fi, felly mi oedd yn rhaid i fi godi'n fuan i llnau'r ty a hefyd i fynd i siopa er mwyn llenwi'r fridge efo bwyd, er mwyn i fy rhieni feddwl fy mod i'n edrych ar ôl fy hun yma yng Nghaerdydd.

Chwarae teg i Dad i wnaeth o drio fy helpu i roi'r cyprddau newydd at ei gilydd, ond gafodd o fawr o lwc chwaith!! Unrhywun yn nabod rhywun sy'n dda am roi flatpacks at ei gilydd??!

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x

Beth yw'r ots gennyf fi am Efrog Newydd?...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Sadwrn, 31 Mawrth 2007

Sylwadau (0)

Helo helo - dyma fi nol yng Nghymru fach ar ôl wythnos yn jet-setio. Da iawn. Pan o ni'n fach ac yn mynd ar fy ngwyliau gyda mam a dad a Beth fy chwaer, (doedden ni byth yn mynd i Costa Del Sol na dim, roedden ni'n wastad yn cael gwylie ABC... Another Blincin Church.. Another Blincin Capel... ) ond o fi wastad yn cael amser da. Doeddwn i byth yn deall pam felly, fod mam a dad wastad yn dweud "Ooh! Mae'n neis bod adre!" achos yn fy marn i roedd bod unrhywle yn well na bod ym Mhontypridd. Ond nawr fi wedi tyfu lan, fi'n deall be oedd mam a dad yn son amdano. Roedd mynd i Efrog Newydd yn neis, ond mae'n ffab bod nol.

Nath Sian (y cynhyrchydd) ac Emma (fy ffrind ac house-mate) ddychwelyd o Hong Kong wythnos dwetha'. Nethon nhw fynd i Tseina a phrynu hadbags posh iawn am bris rhesymol iawn. Yng Nghymru, bysen ni'n dweud fod y bagiau wedi "cwympo oddi ar gefn lori" ond ma nhw'n fabulous iawn. Nath Emma brynu bag tebyg i'r Mulberry Roxanne a nath Sian gael Dior Saddlebag... fi yn rili cenfigenus. Sgwn i os nai ffeindio un tebyg lawr Bessemer Road ar ddydd Sul?

Nes i ac Emma fynd i siopa i archfarchnad nid an-enwog ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, a nethon ni benderfynu prynu chydig bach o grog gan fod ein coctêl cabinet ni yn wag. Ond pan gyraeddon ni y til dyma'r ddynes tu ol y til yn gofyn yn swrth;

"You gor any i.d girls?"

Nes i ac Emma chwerthin yn braf - chware teg iddi, roedd hi'n garedig iawn. Ydyn, mi rydyn ni'n edrych yn ifanc iawn, ond c'mon Mrs, gad i ni brynu'r jin ife? Dywedodd Emma yn ei Saesneg posh gore:

"Yn anffodus does gennym ddim dystiolaeth oedran, heblaw am ein cardiau credit. Mae'n rhaid i chi fod yn 18 i gael carden credit, felly, mae hynny yn ddigon o dystiolaeth onid ydyw?"

Nath Shereen (dyna oedd ei henw) tu ol y til edrych arnom ni a dweud:

"No ID? No drink - if you're norr 'appy - ill call the boss"

Rhaid oedd gadel y siop gyda'n cynffon rhwng ein coesau - yn teimlo rhyw gymysegdd rhyfedd o falchder am ein bod ni'n edrych mor ifanc, a chynddaredd gan fod rhaid i ni adel yr archfarchnad yn waglaw.

Sheree, love, os ti'n darllen hwn - ti'n neud jobyn a hanner tu ôl y til 'na - ond dwi newydd droi yn 30oed a'r unig beth gwaeth na choctêl cabinet gwag yn Stafford Road, Grangetown yw.... mm... i ddweud y gwir, does dim byd gwaeth na hynny!

Mae'n dda bod adre, bobol

M xxx

Trens, Plens a automobils!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 31 Mawrth 2007

Sylwadau (0)

Dydd Llun es i draw i Lanberis i ffilmio ar gyfer rhaglen newydd i'r BBC sef 'National Treasures of Wales', fydd ar y teledu mis Awst dwi'n meddwl. O ni yna i sôn am bwysigrwydd y diwydiant llechi i Gymru. Ar ôl gorffen gweithio es i adre i Blaenau i gael dipyn bach o TLC gan Mam!

Off i 'Werddon dydd Mercher i weld Spiral. Ges i'r tren o Blaenau i Gaergybi yna'r ferry ar draws i Ddulyn. Ges i amser mega da. Ar ôl cyrraedd athon ni i siopa, nes i brynu par o sgidiau gwyn a crys newydd ar gyfer mynd allan i Temple Bar noson honno. Nes i 'really' mwynhau fy hun, yn yfed cider yn Temple Bar, a dawnsio drwy'r nos efo merch brydferth iawn efo gwallt hir melyn o'r enw Niamh. Ges i siom enfawr ar ddiwedd y nos, pan nes i ffeindio allan fod ganddi hi gariad! Am wastraff amser!

Gan bo fi'n aros yn ty Spiral, mi oedd rhaid i fi rannu stafell wely efo Spiral a'i gariad o Latfia, bach yn 'awkward'oedd hi ar adaegau!

Y bwriad oedd gadael Iwerddon ar y dydd Iau a cael diwrnod adre yn Blaeanu cyn teithio nôl ar y tren i Gaerdydd dydd bore Gwener.

Ond o na! Ar ôl cinio mi aeth tad Spiral a fi 'r porthladd i ddal y ferry adre. Ond a'th o a fi i'r porthladd anghywir. Mi aeth o a fi i Dun Laighaire yn hytrach na i Ddulyn, a felly nes i golli'r ferry a gorfod aros noson arall!

Syth allan i ganol Dulyn eto efo Spiral a dal y ferry yn ôl bore Gwener yn lle, ond y ferry anghywir, nid y super duper ferry sy'n cymeryd 2 awr i fynd drosodd, ond es i ar y ferry sy'n cymeryd 6 awr!!

Ar ôl teithio drwy'r dydd dydd Gwener, nes i gyrraedd nôl yng Nghaerdydd am 1 o'r gloch y bore, bore ma!!

Gwely i fi ar ôl y rhaglen p'nawn ma - ma gen i farathon i redeg mewn 3 wythnos!!!!!

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x