Archifau 13 Ionawr 2007

Llond fflat o flodau!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Sylwadau (0)

Ar ôl Rhaglen dydd Sadwrn nes i ffilmio CBBLB am y tro olaf, oedd yn deimlad od, achos mae BBLB wedi bod yn rhan o'm mywyd ers i mi symud i Gaerdydd ddechrau'r flwyddyn. Ar ôl gorffen ffilmio am y tro olaf, roedd yn rhaid i fi ruthro'n ôl i'r fflat gan fod fy nwy chwaer a fy nai Dylan yn cyrraedd.

Ar ôl dod a holl stwff y babi i fewn i'r fflat, nes i fynd a fy chwiorydd (a'r babi) am dro o amgylch Caerdydd er mwyn dangos y 'sights' iddyn nhw.

Aros fewn wnaethon ni nos Sadwrn, ac ar ôl i Dylan fynd i'w wely mi ges i, Annette a Alison fwyd a gwin tra'n gwylio'r teledu. Nes i ddim cysgu llawer nos Sadwrn gan fod Dylan yn crio!

Dydd Sul aeth y pedwar ohono ni i nofio yn y pwll sydd ar yr un campws a lle dwi'n byw. Yn anffodus tydi Dylan ddim yn hoffi dwr, a mi oedd o'n crio lot!

Ar ôl i'r tri ohonyn nhw adael am y gogledd nes i llnau y golwg oedd yn y fflat cyn mynd i clwb badminton.

Bore dydd Mawrth ges i alwad ffôn gan Siân yn C2 yn dweud fod yna flodau 'di cyrraedd i fi yn nerbynfa'r BBC. Dwi erioed wedi cael blodau o'r blaen, a doedd gen i ddim byd i'w dal nhw yn y fflat. Nes i greu 'vase' fy hun drwy dorri potel coke yn ei hanner, a hefyd es i allan i brynu 'vase'!

Bellach ma'r fflat yn llawn blodau - 3 pot ohonyn nhw i gyd!! Dwi di anghofio sôn gan bwy ges i'r blodau. Wel gan griw cynhyrchu CBBLB! Diolch yn fawr ynde, ond sa well gen i di cael cret o gwrw yn lle!!

Gyda'r nos es i allan efo criw Jen Jeniro gan ei fod hi'n 'naked Tuesday' yn un o glybiau'r dre'! Say no more!!

Nos Fercher noson C2 - a noson y cwis pop. Cwis pop ychydig yn wahanol y tro yma, mi oedd rhaid i fi gystadlu yn erbyn cyn pop brain of Britan Mr Ian Cottrell. Oes rhaid dweud mwy! Nes i ddim ennill, ond nes i drio fy ngorau, y ddau ohonon ni yn gystadleuol iawn iawn.

Nos Wener fath ag arfer Badiminton rhwng 6.30 a 9.30. Yna ges i dacsi draw i Glwb Ifor Bach ar gyfer gig Frizbee a Gola Ola. (Diolch hogia' am roi fy enw ar y drws!) Nes i fwynhau'r gig. Gola Ola yn dda iawn, er fod Rich wedi colli ei lais erbyn y gân olaf a fod rhaid i'w ffrind oedd yn y gynulleidfa ddod mlaen i orffen y gân, lllais da gan Siôn so watch out Rich!!

O'dd Frizbee yn dda fel arfer, nes i ddychryn fod rhanfwyaf o'r gynulleidfa yn gwybod y geiriau i'r set i gyd. Diolch hefyd am y lift adre Frizz!

A dyma fi - wythnos arall di pasio, ac ar fin mynd i stiwdio efo Magi D unwaith eto.

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x

Ta Ta hoff gôt a ta ta Baywatch!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Sylwadau (0)

Wythnos llai prysur na'r arfer i fi wythnos yma. Nos Sadwrn mi wnes i fy 'personal apperance' olaf. A hwnnw yng ngorllewin Cymru, mewn gwesty yng Nghastell Newydd Emlyn. Fel arfer dwi'n gwneud fy PA mewn clybiau nos, felly doeddwn ni ddim yn gwybod be i ddisgwyl. Roedd y stafell yng nghefn y gwesty llawn, pobl o bob oed, a lot o ferched. Nes i fy routine arferol, smalio bod y 'Hoff' a dawnsio i thema Baywatch, canu'r 'egg song' ac wrth gwrs ateb cwestiynau'r gynulleidfa. Tro 'ma mi oedd yna gystadleuaeth 'lap dance', tair merch o'r gynulleidfa yn cymeryd rhan, yn anffodus ddim fi oedd yn cael beirniadu pwy oedd orau - y gynulleidfa oedd yn pledleisio.

Teimlad od oedd gadael Castell Newydd Emlyn, er dwi'n eitha balch bo fi ddim yn gorfod tynnu fy nghrys i ffwrdd o flaen llond stafell o bobl am sbel eto! Ers dod allan o Big Brother, dwi di gwneud 60 o ymddangosiadau fel hyn mewn clybiau nos!

Cyrraedd nôl yng Nghaerdydd tua 4 y bore, a mynd syth i fy ngwely!

Deffro tua amser cinio dydd Sul i weld storm fawr o fellt a tharanau a cenllysg drwy ffenest y fflat. Codi a sylwi fod fy 'tour manager' wedi gadael CD i fi ar fwrdd y gegin, copi o'r CD da ni wedi bod yn gwrando arno fo tra'n teithio o glwb i glwb yn ystod y 5 mis diwethaf. Wrth fy modd efo'r CD, mae'n llawn rock anthems, ac yn cynnwys traciau gan Rainbow a Kiss.

Es i lawr i'r bae am ginio dydd Sul efo Siân (C2) Ian Cottrell a hogia Frizbee. Roedd Frizbee lawr yng Ngaerdydd yn recordio cân ar gyfer rhaglen arbennig Santes Dwynwen o Bandit. Ar ôl cinio nathon ni aros yn y bae, Yws a Jes o Frizbee eisiau ffeindio teledu er mwyn gwylio'r peldroed, Man U yn chwarae yn erbyn rhywun!

Trodd p'nawn yn y bae yn noson yn y bae, gan ddiweddu fyny yn cael pizza i swper cyn mynd adre erbyn tua 10 o'r gloch y nos.

Dechrau eitha' tawel i'r wythnos, gwneud fawr ddim byd arwahan i fynd i glwb badminton efo fy ffrindiau dydd llun, ac yna dydd mawrth nes i dreulio'r rhanfwyaf o amser efo fy ffrind Chris yn chwarae gemau cyfrifiadurol!

Dydd Mercher - diwrnod recordio Celebrity Big Brother's Big Brother. Ffilmio yn y brifysgol heddiw. O ni'n gorfod gofyn i bobl pwy oedden nhw'n meddwl oedd yn mynd i ennill. Lot o bobl efo dim syniad na dim diddordeb pwy oedd yn mynd i ennill, ambell un yn enwi H o Steps fel y ffefryn!

Stiwdios C2 wedyn yn y nos. Dim cwis pop heno, felly mi wnaethon ni rhywbeth hollol wahanol. Mi oedd ganddo ni gystadleuaeth i ennill chips a sos coch am flwyddyn, a hefyd mi oedd Daf yn gofyn i fi os oedd bandiau Cymraeg wedi dwyn rhannau o'u caneuon gan fandiau eraill - eitem or enw tracs o gefn y tryc! Edrych ymlaen ir cwis pop wythnos nesaf rwan!

Dydd Iau es i draw i 'erddi Sophia efo Mark Flannagan sef Jinx o Bobol y Cwm i chwarae tenis. Heb chwarae dim tenis ers i fi symud lawr i Gaerdydd, dwi wedi bod yn canolbwyntio ar y badminton! beth bynnag nes i ennill 6-2 a 7-5 - hwre mawr i fi!

Gyda'r nos dim awydd aros yn y fflat, felly es i i'r sinema. Fedrai ddim dweud wrtha chi pa ffilm nes i weld, achos dwi di anghofio, doedd o ddim yn dda iawn, a do' ni ddim yn ei ddeall chwaith!

Dydd Gwener nes i a Magi fynd draw i ganolfan y Mileniwm i siarad efo staff yr adran, ffordd dda o drio cael mwy o wrandawyr i C2. Mi 'nath Mair fynd a ni draw yna a helpu ni i gario stwff marchnata i fewn. Dim ond tua 10 o bobl oedd yno'n gwrando arno ni a dwi'n gobeithio bydd yna 10 person newydd yn gwrnado ar C2 rwan!! Ar y ffordd adre o'r ganolfan nath Mair, Magi a fi i Tesco, dim bwyd gennai ar ôl yn y fflat. Nath Magi ddweud wrtha fi am brynu 'ready made meals' sy'n hawdd iawn eu coginio yn y meicrodon. Wel! Ar ôl cyrraedd adre nes i sylwi fod yna ddim arwydd meicrodon ar y pryd oeddwn ni wedi ei brynu, felly roedd rhaid i fi ei goginio yn y popdy.

Gai ddweud cyn i fi gario mlaen efo'r stori, mai coginio efo nwy ydan ni yn Blaenau, doeddwn ni erioed wedi gweld hob drydan o'r blaen!!

Ymhen dipyn nes i glywed ogla llosgi mawr, roedd fy ngot goch ddrud neis ar dân, roeddwn ni wedi ei osod ar dop y popdy a drwy gamgymeriad nes i droi'r stof ymlaen yn lle'r popdy!! Oeddwn i'n flin iawn wedyn am weddill y noson!

Dydd Sadwrn - yn amlwg dwi yma yn y BBC, edrych ymlaen i fynd i stiwdio mewn hanner awr, wedi bod yn paratoi a mynd dros y running order efo Magi a Siân yn barod! Ffilmio CBLB am y tro olaf heddiw, a hefyd mae fy nwy chwarae a fy nai Dylan yn dod draw i aros am y nos -mi gewch chi'n hanes wythnos nesaf!

Hwyl

Glyn

x

Shuttlecock a Shandi!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Sylwadau (0)

Rhuthro o'r stiwdio yn syth mewn i dacsi a lawr a fi i recordio Celebrity Big Brother's Little Brother. Fath ag arfer mi oedd dre' yn brysur iawn. Ar ôl gorffen gweithio, nôl a fi i fy fflat lle oedd fy chwaer Annette a'i chariad Mattias yn aros amdanai. Oeddan ni di pasa mynd i dre ond lawr yn y bae aethon ni yn y diwedd, haws cerdded adre na disgwyl am dacsi.

Doedd yr un ohono ni ar ein gorau dydd Sul. Ar ôl i fy chwaer a'i chariad fynd adre, es i draw i 'Erddi Sophia i wylio'r badminton. diwrnod diog iawn ar y cyfan.

Nos Lun mi o ni'n gwneud 'public apperance' yn Jumpin' Jaks yng Nghaerdydd. Mi dda'th fy 'tour manager' i nôl fi a mynd a fi draw. Nath Siân, Mair a Ian o dim C2 ddod draw 'fyd i weld y sioe. O'ni wedi rhoi eu henwau nhw ar y drws, so bo ddim rhaid iddyn nhw dalu. Es i ymlaen i'r llwyfan am hanner nos, a dawnsio i thema Baywatch. Fel rhan o'r sioe dwi'n tynnu fy nghrys a fy melt -a dim arall! Wedyn dwi'n canu'r egg song, cyn mynd ati i chwarae gems. Fy hoff gem i ydi pasio'r 'ice cube' o geg i geg. Dwi'n gorfod dewis 5 merch o'r gynulleidfa i ddod i'r llwyfan i chwarae'r gem! Gem yr hogia ydi gorfod yfed burger, chips a coke wedi cael ei flendio (tebyg iawn i beth ges i yn y ty, ond cig oen a pavlova oedd hwnnw!)

Bues i'n 'meetio a greetio' am awr a hanner. Ma hyn yn golygu cael tynnu fy llun sawl gwaith a cusanu lot o ferched! Nes i gyrraedd adre tua 2.30am, noson dda iawn!

Dydd Mawrth ydi diwrnod 'Welsh in a Week'. Ar hyn o bryd mae'n rhaid i fi gadw'n gyfrinach pwy dwi'n ei ddysgu i siarad Cymraeg, ond fydd ddim rhaid i chi aros yn hir, achos mi fydd y rhaglen ymlaen ar Fawrth 1af. Ges i hwyl heddiw, roedd yn rhaid i fi ddysgu'r actores sut i ganu 'sosban fach'!.

Noson dawel i fi wedyn, setlo fy hun lawr ar y soffa am y noson i wylio Big Brother.

Bore dydd Mercher mi oeddwn i yn yr orsaf drenau yn holi pobl pwy oedden nhw'n meddwl fasa'n cael eu evictio o'r ty dydd Gwener. Mi oeddan ni di gorffen ffilmio erbyn amser cinio, felly oedd gennai ddigon o amser i baratoi ar gyfer y parti yn y fflat noson honno. Gan fod ryw gem beldroed ymlaen ar nos Fercher, doedd C2 ddim yn dechra' tan 10 felly doedd gennai ddim rhaglen. Mi ddath criw C2 draw i gael bwyd a hefyd fy ffrindiau badminton. Oedd rhaid i fi dynnu llun y buffet o ni wedi ei wneud er mwyn ei ddangos i Mam, fasa hi byth yn credu bo fi'n gallu paratoi y ffasiwn beth!

Mi o 'ni di prynu'r gem bobbit yn dre, a mae o'n 'mega cool' gafon ni hwyl yn chwarae efo fo, mi oedd pawb yn eitha' da arwahan i Magi oedd yn rubbish a ddim yn trio!! A'th hi'n noson hwyr, oedd hi'n tynnu at 3 o'r gloch ar bawb yn gadael!

O ni'n gorfod mynd i stiwdio C2 p'nawn dydd Iau i recordio rhywbeth ar gyfer rhaglen dydd Sadwrn. Gan bo fi'n rhedeg marathon Llundain efo Daf Du mis Ebrill, o ni'n meddwl y basa fo'n syniad da cerdded o'r bae i'r BBC er mwyn cadw'n ffit! Dydd Iau oedd y tywydd yn afiach, glaw a gwynt a cenllysg! Cymerodd hi dros awr i fi, a mi oeddwn ni'n socian yn cyrraedd y BBC. Nos Iau wedyn mi ddath un o fy ffrindiau coleg i draw i aros, ac a'th hi'n noson hwyr eto!

Gan fod y tywydd dal yn afiach dydd Gwener nes i benderfynu mynd ar un o'r teithiau yna o amgylch castell Caerdydd. A nes i fwynhau!! Yn y p'nawn es i chwarae badminton. Mi oedd rhaid i fi chwarae yn erbyn hogyn 12 oed gan fod pawb arall yn y dosbarth llawer iawn gwell na fi! Noson o flaen y teledu i fi wedyn a gwylio Big Brother. Ar ôl gwylio Ugly Betty es i fy ngwely a gwrando ar Steve a Terwyn ar C2.

Bore 'ma nes i gerdded draw i dy Siân (cynhyrchydd C2) a mynd a platiau yn ôl iddi (o'n ni di gael benthyg platiau ganddi ar gyfer y parti nos fercher). Diwrnod prysur o fy mlaen i heddiw, ar ôl y rhaglen gorfod ffilmio ar gyfer CBBLB ac yna draw i Gastell Newydd Emlyn ar gyfer fy 'public apperance' olaf! Reit tan wythnos nesaf.....

Hwyl

Glyn

x

Sâl fel ci ac yn dlawd fel llygoden eglwys....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Sylwadau (0)

Nes i ddeffro bore Llun gyda gwddwg tost. Y math o wddwg tost sy'n golygu un peth yn unig... ma' annwyd ar y ffordd. Penderfynu bo hynny'n ddigon o reswm i beidio mynd i'r gym heddi' eto. Nai deffo mynd wythnos nesa'. Dim esgusodion. Serch fy salwch - edrych mlaen at gael mynd i'r gwaith 'cos ma Daf Du nol ar C2 yr wythnos yma felly sdim rhaid i fi boeni am gyflwyno'r Sioe Siartiau. Nice one Cyril...

Ma gen i £2.37 i bara fi tan bo fi'n cae fy nhalu ar ddydd Llun so allai ddim neud unrhywbeth tan hynny. Does gen i felly ddim byd o bwys i rannu 'da chi achos fi di gorfod aros mewn a gwrando ar C2 a gwylio rhaglenni realaeth drwy'r wythnos... (Yr hyn dwi wedi ddysgu o orfod gneud hyn: ( Ma Anthony Cotton deffo mynd i ennill Soap Star Superstar a ma Daf lot gwell cyflwynydd na fi...)

Nes i wirioneddol fwynhau raglen bore Sadwrn. Nes i a Glyn cwerthin nes bo ni'n crio. Ymateb ar y testun ac ar y ffon yn anhygoel unwaith eto. Ma Glyn 'di gofyn i griw C2 draw i'r fflat nos Fercher - mae e di addo coginio swper i ni gyd. Felly os ryn ni gyd yn diodde' o salomella ddydd Iau - chi'n gwbod pwy sy ar fai....

Magi

xxx

Wythnos o fyw ym Mhrifddinas Cymru!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Sylwadau (0)

Ar ôl rhaglen dydd Sadwrn es i'n syth i'r dre' mewn tacsi ar gyfer recordio cyfweliadau ar gyfer Celebrity Big Brother's Little Brother. Ddim yn gwybod os nathoch chi weld y cyfweliadau, ond mi wnaethon nhw ddangos fi'n cerdded mewn i ddrws gwydr! (doniol iawn i bawb arall!!)

Mi oedd fy nheulu i gyd wedi teithio lawr bore Sadwrn i fy helpu i symud fewn i fy fflat newydd. Mae'r fflat yn fwy na plesio - dwi wrth fy modd ag o, edrych mlaen i setlo fewn go iawn rwan. Nos Sadwrn es i allan i'r bae am fwyd efo Mam, Dad a fy nwy chwaer.

Mi wnaeth y 5 ohono ni aros yn fy fflat i nos Sadwrn, cyn teithio'n nôl fyny'r A470 dydd Sul er mwyn i fi gael nôl mwy o ddillad a nôl fy raced tenis a raced badminton. Tra yn Blaena' ges i gyfle i restio cyn meddwl am deithio nol lawr i'r de eto.

Dydd Llun, ges i dacsi o Blaenau holl ffordd lawr i Llanelli, gan fy mod i'n westai arbennig ar Wedi 7. Heledd Cynwal oedd yn fy holi. Ges i gyfle i roi plyg da i C2, a mi oeddwn i'n trafod Celebrity Big Brother 'fyd. Nos Lun oedd fy noson gyntaf yn fy fflat ar ben fy hun.

"Penblwydd Hapus i fi, penblwydd hapus i fi!" Dydd Mawrth mi oeddwn i'n dathlu fy mhenblwydd yn 19 oed. Mi wnes i dreulio 8 awr o fy niwrnod mewn stiwdio yn darllen sgript oddi ar auto cue ar gyfer 'Welsh in a Week'. Gyda'r nos es i allan am fwyd efo Mark Flannagan, sy'n chwarae rhan Jinx ym Mhobol y Cwm, Dyfrig Evans a Rhodri Meilir (y boi na sy'n actio yn My Family) Noson fawr ar y sambucas ac adre!

Mwy o ffilmio i CBBLB bore Mercher cyn mynd draw i swyddfa C2 erbyn 6. Heno o ni'n cyd gyflwyno efo Daf Du, a mi oedd hi'n noson y cwis pop, fy hen ysgol i Dyffryn Conwy, Llanrwst yn erbyn David Hughes Porthaethwy. Yn anffodus Ysgol David Hughes wnaeth ennill, ond chwarae teg mi oedden nhw'n haeddu dod yn gyntaf!

Es i chwarae badminton bore Iau. Doeddwn ni heb chwarae ers amser hir, a mae fy mhen ôl i'n brifo braidd! Ma' na bwll nofio a gampfa yn y bloc o fflatiau lle dwi'n byw, felly nes i dreulio lot o'r diwrnod yn fano. Gyda'r nos mi gefais i wahoddiad am fwyd gan y bobl sy'n byw drws nesaf i fi. Pobl neis iawn, a mi wnaethon nhw goginio fy hoff bryd bwyd, sef cig oen (mae'n amlwg eu bod nhw wedi bod yn gwylio Big Brother!)

Bore Gwener mi aeth Chris (sy'n chwarae badminton efo fi) a fi draw i 'Erddi Sophia i wylio Pencampwriaeth Badminton Cymru.

Gyda'r nos mi ddaeth fy chwaer Annette i aros efo fi a'i chariad Mattias sy'n wreiddiol o Awstria. Mi wnes i goginio bwyd iddyn nhw, fy 'speciality' ar hyn o bryd ydi tatws trwy' crwyn, efo menyn caws a beans! Wedyn mi aethon ni allan i'r bae am y noson.

Newydd gyrraedd fewn i swyddfa C2, gorfod mynd yn syth ar ôl y rhaglen heddiw i ffilmio eto ar gyfer CBBLB! Edrych ymlaen i fynd i stiwdio rwan.

Hwyl

Glyn

x