Help / Cymorth

Archifau Hydref 2010

Rooney'n un o blant Thatcher

Glyn Griffiths|15:07, Dydd Mawrth, 26 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Ar ôl yr holl heip, mae pawb yn hapus, a tydi Wayne Rooney wedi gwneud dim o'i le.

Heblaw hwyrach am ofyn am grocbris fel cyflog ar adeg pan mae llywodraeth y wlad yn torri budd-daliadau, lleihau gwariant cyhoeddus a sicrhau y bydd miloedd o bobl yn colli eu swyddi.

Syr Alex a Ferguson a Wayne Rooney

Ond Rooney a'i debyg ydi'r bai am hyn oll, petaech yn gwrando ar bobl o'ch cwmpas - nid y bancwyr, nac aelodau seneddol, na buddsoddwyr ariannol, nac hyd yn oed y llywodraeth flaenorol.

Rooney ydi'r drwg yn y caws.

Wrth gwrs, os caiff Wayne gyflog o ryw £200,000 yr wythnos, bydd y llywodraeth wrth eu bodd, yn tynnu allan 50% fel treth ac yn diolch yn fawr iddo am gyfraniad helaeth at gyllid y wlad yn wythnosol.

Ydi'n wir, tydi moesoldeb o unrhyw fath ddim yn cael unrhyw ystyriaeth? Waeth heb inni heb a digalonni am gyflog athro mewn ysgol galed ddinesig, neu wasanaethwyr yn y byd meddygol cyhoeddus, llawer haws lladd ar bêl-droedwyr a chwyno nad ydi pethau fel ag yr oeddynt.

O ble mae Rooney yn dod yn gofyn am y fath gyflog? Mae llawer o'r pêl-droedwyr cyfoes wedi cael eu geni yn y saithdegau neu'r wythdegau ac wedi cael eu magu mewn ardaloedd tlawd, gan amlaf, o dan ddylanwad athroniaeth Thatcher ar draul yr athroniaeth gymdeithasol a gafwyd gynt, anogai Wayne ac eraill i rodio ar ei feic (ac yna ei geir cyflym) er mwyn chwilio am ddyfodol newydd, cyfoethog, a manteisio ar eu doniau i wneud elw anferthol iddynt eu hunain.

Ydi mae Wayne Rooney wedi dod yn gyfoglyd o gyfoethog, yn anfoesol o gyfoglyd o gyfoethog ac yn blentyn i athroniaeth Thatcher.

Ond petai fy enw i ar gefn crys replica fy nghlwb, a bod fy nghlwb yn gwneud elw o ryw £150 miliwn am ei werthu, yna fe fyddwn innau hefyd yn gofyn am fy rhan o'r elw yna.
Ymddengys, pan aeth Cristiano Ronaldo i Real Madrid fod y gwerthiant o grysau'r clwb wedi creu elw i'r clwb o €100 milwn ym mlwyddyn gyntaf cytundeb y blaenwr!

Pwy feddyliwch sydd yn prynu'r crysau yma? Wel yr ateb, gan amlaf, ydi'r union bobl ag sydd yn gweiddi ei fod yn hollol anfoesol fod pêl-droedwyr yn cael cymaint o gyflog!

Ydi'n ormod talu £10miliwn i Rooney am bum mlynedd, os gall ei enw ar gefn crys ddod a £500miliwn o elw i Manchester United dros yr un cyfnod? Mae gan ddynion busnes a'u hegwyddorion a moesoldeb lawer i fod yn gyfrifol amdano.

Does gan Rooney ddim gradd, na chwaith yn dal swydd bwysig un o fanciau mawr y wlad, ond mae wedi dilyn cyngor Thatcher a manteisio ar ei alluoedd.

Yn wir fe fyddai Rooney wedi derbyn llai o feirniadaeth petai wedi ceisio ymuno ac un o fanciau mawr y ddinas yn Llundain yn hytrach na dangos diddordeb mewn ymuno â Manchester City!

Ond dyna chi, ewch ati i brynu'r crysau heb unrhyw gydwybod ar gyfer aelodau eich teuluoedd erbyn y Nadolig, a sicrhewch fod egwyddorion marchnad rydd yn parhau, a phwy a ŵyr, hwyrach fe fyddwch yn helpu rhyw blentyn o ardal dlawd arall wella ei stad o fyw! Bydd eich cydwybod yn glir!!

Roo-ney! Roo-ney! Roo-ney!

Gwerthu medalau Best

Glyn Griffiths|11:52, Dydd Iau, 21 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Profiad newydd oedd mynd i arwerthiant memorabilia pêl-droed yn ocsiwn Bonhams yng Nghaer, lle gwelais medal enillydd Cwpan Ewrop (1968) George Best yn cael ei werthu am £156,000.

Roeddwn yn ofn chwythu'n nhrwyn na chrafu fy nghlust yno, rhag ofn i mi ymddangos fel fy mod yn awyddus i roi cynnig!

Gwerthwyd tlysau eraill a enillwyd gan, neu a roddwyd i Best, gan ddod a thua £200,000 o elw i gronfa ei eiddo.

George Best


Ond y tu ôl i'r cynnwrf, roedd tristwch o feddwl fod sefyllfa teulu Best yn golygu fod angen gwerthu eiddo unigryw, er mwyn talu dyledion a ddaeth i'w rhan yn sgil y gost am driniaeth feddygol George yn Ysbyty Cromwell, Llundain a dyledion ariannol i gyn wraig Best.

Tydi'r sefyllfa yma o werthu medalau a enillwyd ar lefel rhyngwladol, fodd bynnag, ddim yn un unigryw. Ymddengys mai'r brodyr Charlton - Bobby a Jack - a Roger Hunt fydd yr unig aelodau o dîm llwyddiannus Cwpan y Byd Lloegr a fydd bellach yn parhau i fod yn berchnogion o'r medalau a enillwyd yn ôl yn Wembley ym 1966.

Yr wythnos nesaf bydd Nobby Stiles yn gwerthu ei fedal o mewn arwerthiant yn y Royal Highland Centre yng Nghaeredin a disgwylir rhwng £100,000 a £150,000 amdani.

Roedd y crys a wisgwyd gan Pele, yn ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwgoslafia ym mis Gorffennaf 1971 hefyd ar werth yng Nghaer ac fe'i prynwyd am £7,200.

I roi pwysigrwydd arwyr cyfoes mewn persbectif, gwerthwyd pâr o sgidiau pêl-droed a arwyddwyd gan Wayne Rooney am £160!

Ie, deud dim ydi'r gorau, er roedd rhan ohonof yn rhyw ddisgwyl gweld Rooney yn troi i fyny yn yr ocsiwn ac yn cael ei gynnig ar werth fel rhywbeth ail-law, wedi gweld dyddiau gwell, er mwyn creu elw sydyn a fyddai'n lleihau dyledion teulu'r Glazers!

Ond tybed a ydych chi wedi prynu, neu werthu rhywbeth unigryw yn y byd pêl-droed, a faint a fyddech yn fodlon talu am rywbeth sydd yn golygu llawer i chi?

Diddorol fyddai cael clywed a chasglu eich barn.

Brwydr fawr dinas Lerpwl

Glyn Griffiths|19:46, Dydd Mercher, 13 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Gyda dyfodol Lerpwl bellach yn fwy clir, bydd y gêm ddarbi yn erbyn Everton bnawn Sul yn siwr o fod yn un diddorol a dweud y lleiaf, yn enwedig o ystyried y gall y tîm sydd yn colli'r gêm ddisgyn i waelod Uwchgynghrair Lloegr.

Tybed a fydd Lerpwl yn cynnig, neu mewn sefyllfa i gynnig, bonws i'r tîm os ydynt yn ennill?

Wel dyma yn union a ddigwyddodd yn y gêm ddarbi gyntaf a chwaraewyd rhwng y clybiau yn 1894, pan aeth cyfarwyddwyr Everton ati i gynnig bonws i'w chwaraewyr.

Ond nid arian yn unig oedd y bonws yma, ond yr hawl i dderbyn het sidan yn ogystal, ac mae cofnod o hyn i'w weld yn llyfr cofnodion Everton o'r cyfnod!

Mae'n debyg fod y cynnig yn un deniadol gan i Everton ennill o dair gôl i ddim ac ennill yr hawl i wisgo'r het!

O ran Lerpwl, mae yna ddau Americanwr wedi bod yn siarad trwy eu het ers peth amser yn Anfield.

Ond yn awr wedi digwyddiadau'r wythnos yn yr Uchel Lys yn Llundain mae disgwyl i Mr Hicks a Mr Gillett ymadael gyda pherchnogion y Boston RedSox - o dan arweiniad John W Henry - yn ffefrynnau i gydio yn yr awenau.

Ond tybed all Everton roi'r 'top hat' ar broblemau diweddar Lerpwl y penwythnos yma a'u gadael yn wynebu dyfodol anesmwyth ar y cae wrth iddynt geisio ail afael a'r safonau a fu.

O leiaf ni fyddai'n rhaid i'r clwb - os bydd cynnig John Henry yn llwyddiannus - yn gorfod pasio'r cap o gwmpas y ddinas i gasglu arian i achub y clwb mwyach, na mynd cap yn llaw at fanc y RBS am achubiaeth chwaith!

Fe ddylai bnawn Sul fod yn un unigryw iawn.

Perchnogion newydd i Lerpwl

Glyn Griffiths|17:37, Dydd Mercher, 6 Hydref 2010

Sylwadau (1)

Faint ohonoch sy'n cofio'r ffilm - 'Field of Dreams'?

Ynddo, mae ffermwr lleol, Ray Kinsella, yn clywed llais mewn cae o ŷd yn galw arno - 'If you build it, he will come' ac yn sgil yr alwad, mae'r ffermwr yn cael gweledigaeth o gae pêl fâs, ac yn mynd ati i adeiladu un ar ei dir, a chewri pêl fâs y gorffennol yn ymddangos.

Oherwydd y trafferthion ariannol sydd yn codi o geisio creu llwyddiant ar y cae pêl fâs, rhaid i'r ffermwr ystyried ail dyfu'r ŷd, er mwyn sicrhau dyfodol, gyda'r banc yn ei erlid i sicrhau ei fod yn gallu talu ei ffordd, ac osgoi bod yn fethdalwr.

Cyn bechnogion Lerpwl, George Gillet a Tom Hicks

Yna, ceir gweledigaeth arall - chwaraewyr pêl fâs yn ymddangos ar y cae, ac yn erfyn am yr hawl i chwarae a llwyddo, fel ag yn y gorffennol.

Aiff y stori ymlaen i ddangos sut yr aeth Ray Kinsella o gwmpas yr Unol Daleithiau i chwilio am bobl a oedd yn enwog neu yn gysylltiedig â'r byd pêl fâs yn y gorffennol.

Llwyddodd Kinsella i gael hyd i awdur enwog, gan ei ddenu i faes pêl fas Fenway Park, sef cartref y Boston Red Sox , ac yno fe glywyd llais yn galw - 'Go the distance' - ac yn sgil hyn, Kinsella yn codi stadiwm, yn denu miloedd o ymwelwyr sydd yn talu i ddod yno i hel atgofion am eu plentyndod fel y cadwer i'r oesau a ddêl y glendid ( a'r llwyddiant )a fu.
Croeso i Anfield, berchnogion Fenway Park a'r Boston Red Sox - ac fel mae pob Sgowsar wedi ynganu'r wythnos yma - 'go the distance', gan ddileu'r ddyled ariannol, sicrhau na fydd Lerpwl yn fethdalwyr ac yna, pan fydd mantel heddwch yn amgylchu'r clwb, eistedder y perchnogion newydd yn hedd eisteddfod cymanfa'r Kop.

Ffilm ffantasi ydi 'Field of Dreams', on dos fydd unrhyw ffantasi yn efelychu sefyllfa clwb Lerpwl yn ddiweddar yna, dyma fo - os gall Roy Hodgson afael ar bethau, ac adeiladu tîm gyda hygrededd, a goroesi'r smonach a gafodd ei greu gan Rafa Benitez, Tom Hicks a George Gillet, yna fe ellir cymryd camau positif tuag at greu'r llwyddiant mae'r cefnogwyr yn chwilio amdano.

O leiaf, dyna'r bwriad wrth weld y miloedd o gefnogwyr y gêm yn llifo i'r cae pêl fâs ar dir y fferm dywed Ray Kinsella ei fod newydd greu rhywbeth hollol afresymol.

Bydd yr wythnosau nesaf yn siŵr o ddangos os mai realiti, neu fyd arall o ffantasi dychmygol ac afresymol sydd ar fin esgor yn Anfield.

'If you build it he will come' - tybed a fydd ysbryd a breuddwydion Bill Shankly yn cael eu gwireddu, gyda phawb yn cyd-weithio gan esgor ar rannu llwyddiant unwaith eto ar gae bêl-droed enwog Anfield? Amser a ddengys.

Bathodyn newydd

Dylan Jones|11:45, Dydd Mawrth, 5 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Nos Wener fe fydd Cymru yn wynebu Bwlgaria yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu hail gêm yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012.

Mae 'na ddigon o bynciau trafod i gefnogwyr Cymru ar hyn o bryd.

A yw Brian Flynn yn haeddu'r swydd yn llawn amser? Pam bod Craig Bellamy yn absennol, er iddo chwarae i Gaerdydd y Sadwrn diwethaf?

Ond y drafodaeth ar raglen Taro'r Post am hanner dydd brynhawn Mawrth fydd penderfyniad Cymdeithas Pêl Droed Cymru i fabwysiadu bathodyn newydd.

A yw'r penderfyniad i gael gwared a'r bathodyn hanesyddol yn gam yn ôl neu yn adlewyrchu cyfnod newydd i'r tîm cenedlaethol?

Fe fyddaf yn holi is-lywydd y Gymdeithas, Trefor Lloyd Hughes ar y rhaglen ac mae croeso i chi gysylltu gyda ni drwy ffonio 03703 500 500 neu e-bostio tarorpost@bbc.co.uk

Uwchgynghrair. Safon uwch?

Glyn Griffiths|14:22, Dydd Gwener, 1 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Ad-drefnwyd Uwchgynghrair Cymru er mwyn gwella safonau a gwneud y gynghrair yn fwy cystadleuol.

Ar ôl rhyw fis, a gyda phob tîm wedi chwarae o leiaf chwe gêm, mae Bangor yn arwain gyda'r Seintiau Newydd yn yr ail safle.

Yn anffodus, mae yma dipyn o wahaniaeth rhwng Bangor ar y brig efo 21 o bwyntiau , a Chastell Nedd yn y trydydd safle, gyda thri phwynt ar ddeg.

Ac mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, fod yna fwy o gystadlu am le yn y chwech uchaf, ac am osgoi'r ddau safle isaf, nag sydd yna ar y brig.

Dyddiau cynnar rwy'n cyfaddef, ond mae gen i deimlad mai creu cyd-destun cystadleuol gwell am y bencampwriaeth oedd y nod.

Rhaid dweud fod y gemau rwyf wedi eu gweld hyd yn hyn yn dangos safon uchel o chwarae, yn enwedig o ran Bangor a'r Seintiau. Serch hynny, mae yna stŵr wedi codi ynglŷn ag amser cychwyn y gemau, gyda'r Drenewydd yn anhapus gyda'r gic gyntaf am ddau, am fod hyn, yn ôl pob sôn, yn amharu ar y gwerthiant o fewn eu clwb cymdeithasol.

Rwyf ond yn gobeithio mai safon y chwarae ar y cae fydd yn hawlio'r penawdau drwy'r tymor, megis ag a geir ar hyn o bryd gan Fangor a'r Seintiau, ac mae nid creu delwedd o gynghrair sydd yn dibynnu ar faint o greision a chwrw sy'n cael ei werthu cyn, neu o flaen y gemau, yr ydym yn ei gyflawni!

Bydd Bangor yn wynebu'r Seintiau ar Ffordd Farrar bnawn Sadwrn - tybed a fydd gennych sylwadau ar safon yr hyn a welir?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.