Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2010

Yr atgyfodiad?

Glyn Griffiths|22:55, Dydd Gwener, 26 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Gyda'r Pasg yn nesáu, diddorol ydi sylwi fod Ryan Giggs yn son am atgyfodiad gyda thîm cenedlaethol Cymru.

Mae'r syniad wedi cyffroi llawer o'r cefnogwyr, ond faint o chwaraewyr allwch chi eu cofio a wnaeth 'comebacks' yn y byd rhyngwladol?

Rhoddodd Roger Milla y gorau iddi yn 1987 ac aeth i fyw ar ynys anghysbell yng nghanol cefnfor India cyn cael galwad i ddod ac arwain ei wlad yng Nghwpan y Byd yn yr Eidal yn 1990, ac yntau'n dri deg wyth oed. Llwyddodd i sgorio pedair gôl wrth arwain Cameroon i wyth olaf y gystadleuaeth.

Rhoddodd Zinedine Zidane y ffidil yn y to yn 2004, ond daeth yn ôl gan arwain Ffrainc i ffeinal Cwpan y Byd yn 2006, ble ddaeth popeth, yn llythrennol, i ben, wrth iddo benio Marco Materazzi a chael ei anfon o'r cae.

Byddai gweld Giggs yn helpu Cymru i rowndiau terfynol Ewro 2012 yn gyflawniad gwyrthiol ynddo'i hun, heb sôn am gyrraedd yr wyth olaf.

Mae'n ymddangos fod gan Syr Alex Ferguson amheuon, ond does ond obeithio na wnaiff John Toshack ymddwyn fel Pontiws Peilat a gofyn i'r cefnogwyr ddewis rhwng cynnwys Robbie Savage neu Ryan Giggs fel arweinwyr y dyfodol newydd.

Allwch chi feddwl am chwaraewyr a ddaeth yn ôl, a chreu gwyrthiau, neu hyd yn oed hunllefau?

Gadewch i ni wybod.

Go brin daw'r alwad i Giggs

Ian Gwyn Hughes|14:21, Dydd Gwener, 26 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

giggs.jpgRoedd yna dipyn o gyffro bore ddydd Gwener wedi i'r Western Mail redeg stori yn datgan fod yna bosibilrwydd fod y dewin Ryan Giggs yn ystyried dychwelyd i chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru.

Roedd hynny yn dibynnu ar y rheolwr John Toshack yn codi'r ffôn ac yn gofyn iddo ddychwelyd.

Cafwyd pob math o ymateb ar y radio a'r teledu, gyda chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr yn rhoi eu barn yma ag acw. Mi fyddai hwn yn hwb aruthrol i Gymru cyn y gemau rhagbrofol ac yn llenwi'r bwlch yn absenoldeb Aaron Ramsey, ers i chwaraewr ifanc ganol cae Arsenal dorri ei goes.

Erbyn amser cinio roedd y stori wedi newid rhywfaint. Yn cael ei holi ar y radio dywedodd Ryan ei fod yn barod i ystyried chwarae un gêm pe bai argyfwng ond nad oedd unrhyw gynlluniau i wneud "comeback" go iawn.

Roedd ymateb ei reolwr Syr Alex Ferguson yn rhoi mwy o ddŵr oer ar y cyfan. "You must be joking" meddai gan ychwanegu ei fod o yn teimlo iddo gael ei ddal ar eiliad wan.

Does dim dwywaith fod ymddeol o bêl-droed rhyngwladol wedi bod o fudd i Ryan cyn belled bod ei yrfa ryngwladol yn y cwestiwn. Heb oes mae o wedi chwarae pêl-droed gwefreiddiol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny wedi cael ei gydnabod gan ei gyd-chwaraewyr.

Mi roedd yn ddylanwad arbennig ar y chwaraewyr ifanc yng ngharfan Cymru cyn iddo ymddeol ac mi ddywedodd chwaraewyr ifanc fel Adam Matthews, heb os un o sêr y dyfodol, y byddai wrth ei fodd yn cael y cyfle i chwarae yn yr un tîm â Giggs.

Yn y gorffennol mae John Toshack wedi gwrthod y cyfle i gysylltu â chwaraewr er mwyn ceisio ei ddarbwyllo i newid ei feddwl am ymddeol - ac mae'n annhebygol a fydd yn manteisio ar y cyfle y tro hwn.

Ond mae o'n hapus gyda'r wybodaeth fod y posibilrwydd yno.

Mae Ryan wedi datgan yn y gorffennol ei fod o yn awyddus i fod yn rheolwr ar Gymru rywbryd ac mae hynny efallai yn un posibilrwydd y byddai yn ei ystyried. Y cyfle i ddod yn rhan o'r tîm hyfforddi a gweithio gyda Toshack, gyda'r bwriad o gymryd ei le efallai wedi rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop ddod i ben.

Dyna ddigwyddodd wrth gwrs gydag un arall o gyn-chwaraewyr Manchester United Mark Hughes, sydd bellach allan o waith. Mae Hughes wedi cael ei gysylltu gyda phob math o swyddi, yn cynnwys Burnley, Bolton; ac erbyn hyn yr Ivory Coast ar gyfer Cwpan y Byd, Celtic ers diswyddiad Tony Mowbray a West Ham ble mae Gian Franco Zola dan bwysau aruthrol.

Ac un rheolwr arall o Gymru sydd yn cael ei gysylltu â'r swydd yw Dave Jones, rheolwr presennol Caerdydd. Mae parch aruthrol i Jones oherwydd y gwaith mae o wedi ei wneud yng Nghaerdydd o dan amgylchiadau hynod o anodd.

Does dim dwywaith fod Celtic yn glwb anferth ond mae rheoli yng Nghynghrair yr Alban yn beth arall.

Jam, Jeriwsalem .... a Phil Brown

Glyn Griffiths|08:12, Dydd Gwener, 19 Mawrth 2010

Sylwadau (1)

Stadiwm y Kingston Communications (KC) ydi enw cartref Hull City, ac mae Phil Brown wedi cyflawni nifer o bethau yn ei yrfa yno fel rheolwr.

Dim mwy na chyfathrebu'n effeithiol i arbed gwraig rhag taflu ei hun dros ochor bont yr Humber un bore pan oedd y tîm hefyd yn cerdded ar y bont yn chwilio am ysbrydoliaeth.

phil_brown_phil_brown.jpg

Ond yr wythnos diwethaf bu'n rhaid i Phil Brown ymddiheuro i Sefydliad y Merched (y WI ) ar ôl i bethau fynd yn hyll yn dilyn ffrwgwd a diffyg cyfathrebu rhwng dau o'i chwaraewyr mewn parc cyhoeddus gerllaw bont yr Humber.

Yn anffodus, digwyddodd hyn o fewn golwg y WI a oedd ar fin ymdeithio ar draws y bont i brotestio yn erbyn trais mewn cymdeithas a hyrwyddo heddwch byd eang!

Roedd tymor siomedig Hull eisoes wedi creu anghydfod ymysg y cefnogwyr a rhoi Brown mewn tipyn o jam ond fe gollwyd pob ysbrydoliaeth ar ôl colli adre i Arsenal nos Sadwrn gyda'r rheolwr yn colli ei swydd ar ddechrau'r wythnos yma.

Be felly wnaiff Hull mewn picl? Troi at Iain Dowie, sydd, yn ôl y Cadeirydd, Adam Pearson, gyda'r gallu i osod disgyblaeth ar y tîm. Dwi'n siŵr fydd y WI wrth eu bodd!

Hwyrach fod gan Dowie hefyd lyfr rysáit ar gyfer cyflwyno tactegau 'tried and tested' ar gyfer achub y clwb am weddill y tymor. Dyna be' fyddai creu argraff ar ferched y WI!

Yn y cyfamser, hwyrach fod protest y merched wedi dwyn mwy o ffrwyth na ddychmygwyd gyda Hull yn cynnig delwedd newydd o'u hunain wrth geisio newid cwrs yr Uwchgynghrair ac adeiladu'r Jeriwsalem newydd ar y glasdir hyfryd yn Stadiwm y KC.

Dyddiau da yn dychwelyd i Gasnewydd

Ian Gwyn Hughes|16:17, Dydd Mercher, 17 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

casnewydd_pencampwyr.jpgPan ymunais i ag adran chwaraeon y BBC am y tro cyntaf, roedd gan bob un o'r gohebwyr pêl-droed dasg i'w wneud ar fore Gwener sef casglu deunydd o ran cyfweliadau ac yn y blaen ar gyfer rhaglenni radio y penwythnos.

Yr hyn roeddwn ni yn ei wneud fel yr aelod newydd oedd teithio draw i Barc Somerton yng Nghasnewydd i holi'r rheolwr ar y pryd Colin Addison a rhai o'r chwaraewyr.

Roedd Addo yn wir gymeriad a hawdd oedd gweld pam ei fod o yn gallu ysbrydoli chwaraewyr. Roedd o wedi gwneud hynny gyda Henffordd yng Nghwpan Lloegr wrth guro Newcastle ac wedi gwneud hynny mewn cyfnod arall gyda Chasnewydd wrth eu cadw nhw yng nghynghrair Lloegr.

Yn y cyfnod yma roedd y clwb o Went yn chwarae yn yr hen drydedd adran, fyddai heddiw yn cyfateb i Adran Un gyda chlybiau fel Leeds, Nowrich, Charlton a Southampton sydd i gyd yn chwarae ar y lefel yna erbyn heddiw.

Nid yn unig fod y rheolwr yn gymeriad lliwgar roedd yna gymeriadau ymysg y chwaraewyr hefyd, chwaraewyr o dalent fel Tommy Tynan, Steve Lowndes a John Aldridge.

Dw i'n cofio o hyd un Pasg gêm ar Barc Somerton rhwng Casnewydd a Chaerdydd a thîm Addo o flaen mwy na 18,000 o gefnogwyr yn ennill o gôl i ddim i symud i frig yr adran. Ond roedd y pwysau yn ormod iddyn nhw ac fe gollon nhw eu ffordd a gorffen yn bedwerydd tu ôl i Gaerdydd, Portsmouth a Huddersfield.

Roedd Aldridge yn denu 'r sylw ac un noson fe es i draw i Barc Somerton i edrych amdano pan roedd yr ail dîm yn chwarae. Y sôn oedd ei fod ar ei ffordd i Rydychen am £80,000 ac roedd angen cadarnhau hynny. Fe ddois i o hyd iddo yn ei gartref yn y dref ac mi wnes gyfweliad gydag o y noson honno cyn iddo adael y clwb.

Dyddiau da yn wir ond am i lawr aeth pethau wedyn. Colli statws yn y gynghrair; y clwb yn cau; yn cael eu halltudio; yn brwydro i barhau â'u statws o fewn pyramid Lloegr yn yr Uchel Lys yn yr achos yn erbyn Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ac yn ennill.

A'r wobr - nos Lun o flaen dros 4,000 o gefnogwyr ym Mharc Spytty, fe guron nhw Havant a Waterloooville o ddwy gôl i ddim i sicrhau'r bencampwriaeth a hynny gyda saith gêm i'w chwarae. Tipyn o bluen yng nghap y rheolwr Dean Holdsworth o Wimbledon gynt pan roedden nhw yn yr Uwch Gynghrair.

Felly tymor nesaf mi fydd gêm ddarbi rhwng dau glwb o Gymru yn y Uwch Gynghrair Blue Square a rhwng y ddau Dean, Holdsowrth a Saunders. Mi fydd yna gryn ddiddordeb mae'n siŵr pan fydd Casnewydd yn herio Wrecsam.

Mae o'n gamp aruthrol gan Gasnewydd sydd, tra yn tanlinellu eu llwyddiant nhw dros y blynyddoedd, hefyd yn amlygu cymaint o ddirywiad fu ar y Cae Ras dros y tymhorau diwethaf.

Gwrthwynebu'r perchnogion

Glyn Griffiths|13:53, Dydd Gwener, 12 Mawrth 2010

Sylwadau (2)

Wrth edrych ar y doreth o brotestio sydd yn cael ei gynnal ar Lannau Mersi yn erbyn perchnogion Lerpwl - Tom Hicks a George Gillett ac yn Manchester United yn erbyn teulu'r Glazers, rhaid amau os ydi'r gêm wedi cyrraedd y man lle mae cefnogwyr lleol yn saethu'r fwled olaf i geisio dychwelyd pethau yn ôl i'w gwreiddiau lleol.

Mae gobaith cefnogwyr United yn gorwedd ar ysgwyddau grŵp y Red Knights, sef criw o ddynion busnes cyfoethog sydd yn ceisio prynu'r clwb gan deulu'r Glazers.

Byrdwn anghydfod Lerpwl ydi'r dyledion mae'r Americanwyr wedi eu gosod ar y clwb.

Ychydig iawn oedd yn dangos gwir ddiddordeb yn ymgais y Red Knights, hyd nes i David Beckham godi sgarff gwyrdd a melyn, (sydd yn gysylltiedig â'r mudiad yn erbyn y Glazers), a'i osod o amgylch ei wddf nos Fercher ar ddiwedd y gêm yn erbyn AC Milan.

david_beckham.jpg

Dyma, yn ôl llefarydd ar ran y Red Knights, yw'r hysbysiad mwyaf arwyddocaol eto fod eu hymdrech yn un i'w hystyried o ddifrif.

Ond pam ddylai'r Glazers wrando ar unrhyw un?

Ceisio gwneud elw ar gefn Manchester United mae'r Americanwyr - ac yn hollol ffyddiog y byddant yn gwneud hyn yn yr hir dymor.

Ond ai sefydliad i wneud elw i'r perchnogion ydi Manchester United, neu unrhyw glwb arall, neu glwb lleol, llwyddiannus sydd yn rhan annatod o'r gymdeithas o'i amgylch?

Ai ymdrech i ddod yn rhan annatod o fywyd tref Portsmouth oedd bwriad y gwahanol berchnogion a fu yno yn ddiweddar, neu fethiant i wneud elw ar gefn timau a chefnogwyr?

Hwyrach y bydd canlyniad ymgais y Red Knights yn hollol allweddol i ddyfodol pêl-droed yn Uwchgynghrair Lloegr - ac yn y cynghreiriau eraill o bosib - a bydd eu hymgais i brynu'r clwb yn ein harwain at wynebu'r dyfodol yn ddoethach, ond hyd yn hyn does wybod os fydd hynny yn fwy trist neu yn fwy bodlon ein byd.

Goliau cofiadwy

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|13:30, Dydd Llun, 8 Mawrth 2010

Sylwadau (3)

Wedi'r siom yn erbyn Sweden yn Stadiwm Liberty nos Fercher diwethaf, mae'n ddigon hawdd i ni awchu am y dyddiau a fu.

Ac roedd 'na gyfnod pan oedd Cymru yn cystadlu gyda goreuon y byd.

Pwy all anghofio'r gôl hon ym Mehefin 1991 gyda Ian Rush yn sgorio yn y fuddugoliaeth yn erbyn pencampwyr y byd yr Almaen ar Barc yr Arfau.

Ai dyma'r gôl mwyaf cofiadwy erioed yn hanes tîm Cymru? Neu a oes goliau eraill sydd yn sefyll allan?

Diddorol nodi yr oedd mab Ian - John - ymysg y sgorwyr i Derwyddon Cefn yn erbyn Llanelli yn Uwchgynghrair Cymru y Sadwrn diwethaf.

Y teitl o fewn cyrraedd

Glyn Griffiths|11:39, Dydd Gwener, 5 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Ai Casnewydd fydd y tîm cyntaf i wybod eu bod wedi ennill eu cynghrair y tymor yma?

Mae'r clwb yn hwylio'n braf ar ben Adran y De o Gynghrair y Blue Square ac yn edrych yn sicr o ymuno gyda Wrecsam yn Uwchgynghrair y gyngres y tymor nesaf.

Mae ganddynt ddeg gêm yn weddill, yn 24 pwynt uwchben Chelmsford yn yr ail safle yn ogystal mae 'na wahaniaeth goliau o 48 rhyngddynt a dim ond un gêm wedi ei cholli drwy'r tymor.

Mae Casnewydd yn Weymouth brynhawn Sadwrn (y tîm sydd ar waelod y gynghrair) yna gyda dwy gêm adref yn erbyn Bishop's Stortford ac yna Havant a Waterlooville (dau dîm sydd yn hanner isaf y gynghrair) ac fe all lwyddiant yn y tair gêm yma ddod â'r bencampwriaeth i Barc Spytty erbyn canol mis Mawrth.

Ffyniant yng Ngwent felly - ond draw uwch y cymoedd, mae sefyllfa Merthyr Tudful llawer gwahanol.

Trio cadw pethau i fynd mae'r clwb - gyda phroblemau oddi ar y cae wedi creu anawsterau.

Mae rhywun yn tybio y byddai'n llawer gwell i Ferthyr anelu tuag at ymuno ac Uwchgynghrair Cymru, ond a'i agwedd dau wynebog ydi i mi awgrymu yn yr un gwynt y dylai llwyddiant Casnewydd gael ei gydnabod ac fe ddylid cefnogi eu hymdrech i gystadlu yn Uwchgynghrair y Blue Square, a pharhau o fewn pyramid pêl-droed Lloegr?

Hwyrach mai edrych ymlaen at ddwy gêm ddarbi Gymreig yn Uwchgynghrair y Blue Square y tymor nesaf ydi'r peth gorau y gallaf ei gynnig!

Bywyd byth yn ddiflas wrth ddilyn Cymru

Ian Gwyn Hughes|15:59, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010

Sylwadau (1)

toshack_gweddio.jpgFe ddeudodd rywun wrtha i unwaith o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, er nad oedden ni'n dîm llwyddiannus doedd bywyd byth yn ddiflas wrth ddilyn Cymru. Ac unwaith eto mae hynny wedi ei brofi'n wir.

Gêm gyfeillgar digon di-nod yn erbyn Sweden ar Stadiwm y Liberty yn Abertawe - felly roedd hi yn ymddangos yr wythnos diwethaf beth bynnag.

Yna nos Sadwrn, fe newidiodd hynny i gyd gyda'r anaf dychrynllyd ac anffodus i Aaron Ramsey. Y person sydd bwysicaf yn hyn i gyd wrth gwrs, ond o ran safbwynt John Toshack a Chymru mae o'n ergyd enfawr.

Ramsey oedd dolen gyswllt popeth oedd yn arbennig am fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd yn eu gêm ddiwethaf.

Er ei fod yn ei arddegau o hyd, roedd disgwyl llawer ganddo yn ystod rowndiau rhagbrofol pencampwriaethau Ewrop.

Ac yna ddydd Llun, John Toshack, oedd wedi gadael Craig Bellamy allan o'r garfan, yn cael y cyfle i gadarnhau y byddai'r ymosodwr yn rhan allweddol o'i gynlluniau yn y gemau cystadleuol. Gwrthod y cynnig wnaeth o ac felly'n codi amheuon am Bellamy a Chymru.

Mae'n anhygoel meddwl pe bai Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr ym mis Medi a bod Bellamy yn holliach ac ar gael i chwarae na fyddai'n cael ei gynnwys. Er potensial chwaraewyr ifanc fel Ched Evans, David Cotterill a Simon Church dydyn nhw ddim yn mynd i achosi i Rio Ferdinand a John Terry golli cwsg.

Y trydydd pwnc wrth gwrs oedd maint y dorf. Erbyn pnawn ddydd Mawrth, rhyw 5,000 o docynnau oedd wedi eu gwerthu.

Mae hynny'n naturiol yn siomedig, yn enwedig pan mae un yn ystyried fod bron i 17,000 wedi bod yn y Liberty y penwythnos diwethaf i wylio Abertawe yn curo Peterborough. Mae 20,000 yn gwylio Caerdydd yn gyson, felly pam nad yw'r cefnogwyr yn dilyn Cymru?

Mae sawl ffactor mae'n rhaid ystyried. Mae yna ofynion anferth ar gefnogwyr pêl-droed o ran arian ac o ran teithio, gyda chymaint o gemau yn cael eu chwarae.

Unwaith eto mae yna absenoldebau. Os nad yw'r rheolwr am gynnwys ei chwaraewyr gorau, megis Bellamy, yna dyw'r cefnogwyr ddim am fynychu'r gemau.

Nid Sweden chwaith ydi'r gwrthwynebwyr sydd am ddenu cefnogaeth ychwaith. O'r dyddiau pan roedd Cymru o dan Mark Hughes yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn Yr Ariannin, Brasil a'r Almaen, bellach mae Cymru yn chwarae yn erbyn Georgia, Seland Newydd a Liechtenstein mewn gemau cyfeillgar.

Ar y llaw arall mae'n rhaid i Toshack gael y cyfle i arbrofi. Mae angen gweld pwy sydd am lenwi'r bwlch yn absenoldeb Ramsey. Beth am Andy King, sydd yn cael tymor arbennig gyda Leicester City? Ac os nad oes yna ddyfodol i Craig Bellamy, pwy fydd yn arwain yr ymosod?

Dyna'r rheswm tu ôl i'r gemau ac os ddaw llwyddiant yn sgil hynny ym Mhencampwriaethau Ewrop yna mi ddaw 'r gefnogaeth yn ei ôl.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.