Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2009

Tymor y gemau darbi

Glyn Griffiths|11:30, Dydd Mercher, 30 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Mae yna ryw awyrgylch unigryw i gemau pêl-droed dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd.

Yn draddodiadol, dyma adeg y gemau darbi, ac fel un a gafodd ei fagu yn nyddiau hen Gynghrair Gogledd Cymru, gemau rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog oedd fy neiet i o bêl-droed yn fy arddegau.

Yn aml iawn, cyn y gêm fawr ar ddydd San Steffan, roedd gemau yn y cynghreiriau is, a rheini hefyd yn gemau darbi ac a oedd yn cael dechrau yn gynnar, er mwyn inni gyd fynd i weld y gêm fawr!

Felly oedd hi i mi yn chwarae i ail dîm 'Stiniog ar fore oer yn Nolwyddelan, pan aeth popeth o'i le.

Dathlu'r Nadolig a gormod o bwdin a gafodd y bai, a gyda llond ceg o regi ar y dyfarnwr, penderfynwyd mai digon oedd digon, a gwahoddwyd un o fy nghyd chwaraewyr i fynd am dwb cynnar o ddŵr oer yn y cwt newid er waethaf ei brotest (heb gynnwys y rhegfeydd) - 'Don't you know it's Christmas! Ref!?'

Rhyw feudy o le newid oedd ar gael y dyddiau hynny, a bath metel ar ganol y llawr heb fawr ynddo i gynhesu bodiau traed heb sôn am weddill y corff.

Dynion oedd dynion yr adeg hynny, medda nhw, ond os cawsoch eich taro rhwng eich coesau gan bêl lledr yr oes honno, a hithau yn wlyb a phwyso fel tunnell, byddech yn lwcus iawn o gyrraedd y beudy newid yn dal i gredu mai dyn oeddech chi.

A doedd cael damwain felly, rhyw awr neu ddwy cyn mynd i ddenu genethod ar nos Sadwrn ddim yn jôc, yn enwedig os oedd pob Tom, Dic a Harri ar y pwyllgor wedi bod wrthi'n bodio'ch corff i edrych be oedd yn bod arnoch, a chithau bron a llewygu, na chwaith mewn unrhyw sefyllfa i'w rhwystro!

Dyddiau difyr, tybed beth a fyddai pêl-droedwyr heddiw, neu'r perchenogion o wledydd tramor yn ei wneud petaent yn gorfod chwarae gemau o dan amgylchiadau tebyg?

A phan glywodd Herod am y Mark bychan

Glyn Griffiths|11:47, Dydd Mercher, 23 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Canys fe ddiffoddwyd spark y Marc blaenorol, gan nad oedd yn ddigon Ilachar i ddenu'r doethion o'r Dwyrain i'w addoli.

sparky.jpgWele, fe anwyd i chi heddiw reolwr yn ninas Manceinion - yr hwn yw Roberto, sef Manc i ni.

Ac yn ddisymwth roedd llu o aelodau'r wasg yn sefyll ger ei fron fin nos ( a dydd) , yn chwilio am stori yn ddyddiol, ac yn ysu am ddatguddio dirgelion.

A phan glywodd Herod am y Marc bychan, nid oedd hapus - 'Gadewch i mi weld y Marc bychan' meddai Herod Mansour, 'ond ni ddof yma i'w glodfori'.

Yna bugail newydd o'r Eidal, megis Meseia, ac fe glodforwyd y Manc newydd mewn llety llawn, a'i gyflwyno i'r ddinas wrth i lefarydd gyhoeddi fod holl berchenogion y ddinas wedi beichiogi ers tair wythnos cyn esgor ar yr enedigaeth wyrthiol bnawn Llun ac fe syfrdanwyd pawb.

Er waethaf perfformiad Craig ffyddlon yr oesoedd a ddaeth a thri phwynt gwerthfawr oddi ar y Briwsion ar gad garlam yn eu peisiau gleision, i breseb y Marc bychan, doedd dim Sparc ar ôl yn y ddinas i dderbyn nac aur na thus na mur.

Canys ffyliaid a ddaeth ar daith o'r Dwyrain pell i chwilio am gyfeiriad newydd gan eu sêr o dramorwyr er mwyn teithio pellteroedd cyfandirol gwledydd Ewrop megis llong ar lawn hwyl.

Canys pa mwya sy gennit, mwya cei ac y ceisi - uwch, uwch , y cais o Stryd Balchder ; moes , moes ychwaneg meddai pawb yn Stryd yr Elw; a melys moes eto meddai trigolion Stryd Elw y ddinas ddiegwyddor.

Hughes yn haeddu gwell gan Manchester City

Ian Gwyn Hughes|12:26, Dydd Sul, 20 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

mark_hughes_466.jpg

Wythnos yn ôl, mi roeddwn ni'n trafod sefyllfa Mark Hughes yn Manchester City a'r ffaith fod rhai o'r cefnogwyr yno yn galw am "enw mawr" i gymryd ei le.

Wel maen nhw rŵan wedi cael eu ffordd. Wedi deunaw mis wrth y llyw, wedi arwain y tîm i'r chweched safle, gan golli dwy gêm yn unig yn y gynghrair y tymor hwn, ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol y Cwpan Carling, mae o wedi mynd.

A hynny wedi iddyn nhw guro Sunderland o 4-3 brynhawn Sadwrn.

Mae'n debyg mai'r hyn oedd wedi cyfrif yn ei erbyn oedd y ffaith i City ennill dwy gêm yn unig yn yr un ar ddeg diwethaf a chael cymaint o gemau cyfartal.

O'r ddwy gollwyd, cweir yn Tottenham a cholli yn anlwcus yn y funud olaf yn erbyn Manchester United, wel yn y pumed munud o amser am anafiadau a dweud y gwir.

I mi mae o'n anhygoel. Pe bai unrhyw un yn asesu record Hughes fel rheolwr yna mi fyddan nhw'n gweld ei fod o yn dilyn yr athroniaeth bod angen cropian cyn cerdded.

Wedi etifeddu tîm Bobby Gould fel rheolwr ar Gymru, aeth ati i greu tîm oedd yn anodd ei guro cyn iddyn nhw ddechrau ennill gemau yn erbyn gwledydd fel Yr Eidal a'r Almaen a chyrraedd gemau ail-gyfle Pencampwriaethau Ewrop 2004.

Yr un oedd yr athroniaeth yn Blackburn; tîm cadarn, disgybledig anodd ei guro yn datblygu yn un o dimau mwyaf cyson yr Uwch Gynghrair ac yn sicr o orffen yn y deg uchaf.

Dwi'n gwybod pan gymerodd Mark yr awenau yn Eastlands ei fod o'n meddwl fod ganddo amser i newid pethau i City - clwb gyda llaw sydd heb ennill fawr ddim o werth ers canol y saithdegau.

Roedd o am ddod a sefydlogrwydd i'r clwb, adeiladu sylfaen gadarn cyn mynd ati i ennill tlysau. Ac mi roedd o'n ddigon hyderus yn ei allu ei hun i wneud hynny.

Roedd ganddo gefnogaeth a thîm ffyddlon o'i gwmpas, ymysg y goreuon a dweud y gwir. Eddie Niedzwecki, Mark Bowen, Glyn Hodges a Kevin Hitchcock.

Y broblem fawr wrth gwrs oedd nad dewis y perchenogion presennol oedd Mark. Ond roedden nhw wedi sicrhau amser iddo, roedden nhw'n ymwybodol, yn ôl y sôn, ei bod hi'n cymryd amser i osod sylfaen gadarn o fewn clwb.

Mae o'n amlwg felly i rywun rywle newid ei feddwl. Roberto Mancini, gyda chymorth Brian Kidd, fydd wrth y llyw ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Stoke. Amser a ddengys a fydd hynny yn ddewis doeth ai peidio.

Un peth sydd yn sicr fydd Mark Hughes ddim allan o waith am yn hir o ddewis ond mae'n debyg na chaiff o'r cyfle bellach i fod yn rheolwr yn Old Trafford neu Stamford Bridge.

Mi ddywedodd o unwaith wrtha i y byddai'n ystyried bod yn rheolwr cenedlaethol eto, ac nid o anghenraid ar Gymru. Dywedodd hefyd y byddai bod yn hyfforddwr dramor yn apelio.

Gawn ni weld ond dwi'n teimlo y bydd Manchester City ar eu colled ac nad adlewyrchiad ar Mark Hughes fel rheolwr yw hyn ond yn hytrach ar ofynion perchenogion tramor ariannog.

O leiaf fe dynnwyd y sylw oddi ar ddiffygion timau Rafael Benitez a Syr Alex Ferguson ddoe.

Crwsâd Wrecsam

Glyn Griffiths|08:20, Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Be' sydd angen ei wneud os nad oes yna ddigon o gefnogwyr yn dod i weld eich tîm pêl-droed ? Mae'r ateb yn syml - mynd ar grwsâd!

Ond mae'r crwsâd yn un wahanol yn Wrecsam.

Bydd tîm rygbi'r gynghrair, y Crusaders yn chwarae ar y Cae Ras yn 2010 ac yn ôl Paul Retout, prif weithredwr clwb pêl-droed Wrecsam, fe ddaw hyn ag arian i'r clwb pêl-droed yn ogystal â ffyniant economaidd i ogledd Cymru.

Rhywsut neu'i gilydd, rwyf yn ei chael yn anodd deall sut y bydd tîm rygbi yn Wrecsam yn dod ac elw i Bwllheli neu greu ffyniant yn Nhreffynnon, neu unrhyw le arall!

Yr hyn sydd yn poeni llawer o gefnogwyr y tîm pêl-droed ydi fod consortiwm sydd yn gysylltiedig â'r clwb yn gallu darganfod digon o arian i gynnal y fenter newydd yma.

Mae nifer o'r cefnogwyr yn dechrau gofyn, os oes arian ar gael, pam nad oedd yn bosibl cyllido gwell tîm a gweld Wrecsam yn dringo o Uwchgynghrair y Blue Square ac yn ôl i'r Gynghrair Coca-Cola?

Mae cefnogwyr Wrecsam eisoes yn llawn rhwystredigaeth wrth weld eu tîm yn ceisio sgorio, ond yn llwyddo i wneud dim gwell yn aml, nac anfon gormod o gynigion dros y trawst.

Byddai cefnogwyr y Crusaders yn gwirioni petaent yn gweld eu chwaraewyr nhw yn cyflawni rhywbeth tebyg!

Gwneud Uwchgynghrair Cymru yn werth ei hachub

Glyn Griffiths|18:38, Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Dywedodd y diweddar Tegla Davies nad achub Cymru sydd eisiau, ond gwneud Cymru yn werth ei hachub.

Bu cyfarfod o glybiau timau Uwchgynghrair Cymru'r wythnos yma i benderfynu sut i wneud Uwchgynghrair Bêl-droed Cymru yn werth ei achub!

Yr ateb oedd cario 'mlaen gyda'r syniad gwreiddiol o gynnal cynghrair o ddeuddeg tîm, sydd yn golygu y bydd rhaid i bob un ohonynt chwarae pedwar deg pedwar gêm mewn tymor.

Golyga hyn hefyd y bydd rhaid ymestyn y tymor yn hirach er mwyn cwblhau'r gemau, a bydd hyn yn golygu mwy o gostau wythnosol i'r clybiau.

Ydi'r Uwchgynghrair yn werth ei achub? Mae'n debyg ei fod, ac mae'n debyg y bod angen cwtogi gan fod timau isel eu safon yn cael eu cynnal o fewn y drefn bresennol.

Serch hynny, gellir dadlau, fel y mae Tomi Morgan wedi ei wneud yn ddiweddar, nad yw'r Uwchgynghrair presennol, (na chwaith yr un a gaiff ei ail-drefnu) yn Uwchgynghrair yn wir ystyr y gair gan nad ydyw yn cynnwys timau o Gaerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd, Merthyr na Bae Colwyn.

Hwyrach wedyn y bydd yr Uwchgynghair yn werth ei hachub!

Does neb yn disgwyl gweld timau cyntaf Abertawe na Chaerdydd yn Uwchgynghrair Cymru, ond diddorol fuasai trafod sut fath o dimau y gall y gweddill ei roi ar y cae yn y fath sefyllfa.

Rhaid cofio hefyd, mai dim ond am ddau dymor yn unig y bydd pedwar deg pedwar gêm yn cael ei chwarae, gan mai deg tîm fydd yn yr Uwchgynghrair erbyn tymor 2012/13, ac yn chwarae tri deg a chwech o gemau.

Allai ddim credu y bydd unrhyw un yn cwyno am hynny.

Hoffwn wybod fodd bynnag, sut y gellir cynnal yr alltudion yn y drefn a mynd ati i gael gwir Uwchgynghrair, fel y cyfeiriodd Tomi tuag ato.

Hwyrach mai eu cynnwys yng Nghwpan Cymru ydi'r lle cyntaf i ddechrau!

Dyna, mae'n debyg fydd y ffrae nesaf!

Giggs yn gennad gwych dros Gymru

Ian Gwyn Hughes|13:30, Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Nos Lun diwethaf fe gafodd Ryan Giggs ei anrhydeddu fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Gwobr ac anrhydedd arall i un o gewri'r gêm, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y byd. Dyma oedd yr ail dro iddo ennill y wobr ac mae o'n anhygoel iddo lwyddo ac yntau rŵan yng nghanol ei dridegau.

A beth sydd yn fwy anhygoel yw ei fod yn parhau i chwarae ar y safon ac ar lefel mor uchel.

Dwi wedi bod ddigon ffodus i ddilyn ei yrfa ers y cychwyn gyda Manchester United ac yn bennaf gyda Chymru pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd allan yn Nuremburg yn nhîm Terry Yorath.

Yn ei gêm lawn gyntaf dros ei wlad, fe sgoriodd â chic rydd wefreiddiol yn erbyn Gwlad Belg.

Bryd hynny roedd pawb yn y wasg a'r cyfryngau yn ysu am y cyfle i'w gyfweld ond gwrthod pob cais roedd Alex Ferguson, gan hawlio hefyd nad oedd i gael ei holi pan roedd i ffwrdd o Old Trafford gyda'r tîm cenedlaethol.

Roedd United yn ymwybodol o'r hyn yr oedd wedi digwydd i George Best ac roedden nhw yn awyddus na fyddai' r un problemau yn dilyn y Cymro ifanc.

Pob tro roedd Terry Yorath yn cynnal cynhadledd i'r wasg byddai rhywun yn gofyn "ydan ni yn gallu holi Ryan?". Yr un fyddai'r ateb pob tro.

Felly pwy oedd y cyntaf i gael cyfweliad ag o? Merch Terry Yorath. Roedd Gabby yn dilyn cwrs gradd ym mhrifysgol Durham ac yn gweithio rhan amser i orsaf radio lleol a threfnodd Terry mai ei ferch oedd y cyntaf i gael cyfweliad ag o.

Er yr holl lwyddiant ers hynny, mae'r swildod yna wedi parhau, mae o yn dawel ac yn ddiymhongar, mor wahanol i lawer sydd yn chwarae ar y lefel uchaf y dyddiau hyn.

Pan benodwyd o yn gapten Cymru roedd y chwaraewyr ifanc yn ei barchu. Doedd o ddim yn mynd o gwmpas yn dwrdio, yn wir doedd o ddim yn dweud llawer o gwbl.

Ond roedd y chwaraewyr yn meddwl y byd ohono, yn cael ei ysbrydoli gan ei bresenoldeb a'r hyn roedd o wedi ei gyflawni yn y gêm.

Mi roedd hi yn siom pan benderfynodd roi'r gorau i chwarae dros ei wlad ond does dim dwywaith fod hynny wedi chwarae ffactor anferth yn ei barhad gyda United a'r ffaith nad oedd Cymru yn cyrraedd rowndiau terfynol.

Tra roedd chwaraewyr eraill yn parhau i chwarae gydol yr haf roedd Ryan gartref yn ymlacio.

O ran llysgennad does neb gwell gan Gymru. Gan ei fod yn chwarae dros Manchester United, sydd a chefnogwyr ymhob man, unai yn Tsieina, India neu Fangor, mae pawb yn gwybod amdano.

Dychmygwch yr ymateb pe bai yn dilyn yr un llwybr a Mark Hughes ac yn cael ei benodi yn reolwr Cymru ar ôl John Toshack. Mi fyddai'r diddordeb yn enfawr a Chymru yn "box office".

Yn ôl Syr Bobby Charlton, Giggs yw'r chwaraewr gorau erioed i gynrychioli United ac mae hynny yn ddweud mawr gan Mr United ei hun.

Pam yr obsesiwn gydag 'enw mawr'?

Ian Gwyn Hughes|17:43, Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Fel arfer ar ôl gem ar bnawn Sadwrn mi fyddai'n cyrraedd y car tua chwarter wedi chwech a gan amlaf mae gen i daith o ryw ddwy i dair awr yn ôl i Gaerdydd.

Mae hynny yn rhoi amser imi felly i wrando ar ail hanner y gêm o'r Uwch Gynghrair ar Radio 5 ac yna 606, y rhaglen gydag Alan Green sydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr ddweud eu dweud ar bynciau llosg y dydd neu'r wythnos.

Dwi'n cofio dro ar ôl tro yn gyrru yn ôl gydag Ian Walsh, cyn-flaenwr Crystal Palace a Chymru, pan roedd David Mellor yn arfer cyflwyno.

Y ddau ohonom ni yn gwylltio'n gacwn wrth glywed y cyflwynydd yn datgan nad oedd o yn methu â deall pam nad oedd Ryan Giggs yn chwarae dros Loegr.

Ta waeth, un o'r pynciau dan sylw y Sadwrn diwethaf oedd Mark Hughes fel rheolwr ar Manchester City.

Wedi blynyddoedd o fynd a dod mae yna ryw fath o sefydlogrwydd yn City rŵan. Dwi'n gwybod iddyn nhw gael saith gêm gyfartal ond maen nhw o fewn cyrraedd i'r pedwar uchaf ac maen nhw yn rownd gynderfynol y Cwpan Carling.

Ond yn ôl un neu ddau o gefnogwyr City maen nhw eisiau newid, maen nhw eisiau enw mawr.

A dyna wnaeth imi feddwl pwy maen nhw ei eisiau felly fel enw mawr? Mourinho, Wenger, Benitez, Houllier neu am yr eildro Erikksson?

Rŵan imi, er nad oeddwn i'n cefnogi Manchester United, roedd Mark Hughes yn un o'r goreuon - yn chwaraewr cryf, yn gallu cadw meddiant, yn gweithio'n galed dros ei dîm a hefyd yn meddu ar y ddawn i sgorio goliau gwych.

Er enghraifft y gôl yna dros Gymru yn erbyn Sbaen yn Wrecsam.

Fe enillodd o bron bopeth dros ei glybiau, mi chwaraeodd i United, i Barcelona, i Bayern Munich ac i Chelsea yn ogystal â sawl clwb arall.

Gofynnwch i unrhyw amddiffynnwr o'r cyfnod pan roedd Hughes ar ei orau pwy fydden nhw'n hoff o'i gael yn yr un tîm a chi, a'r ateb fyddai Mark Hughes.

Dwi ddim yn cofio'r un o'r rheolwyr eraill imi ei henwi chwarae ar yr un lefel, yn wir ar unrhyw lefel o safon.

A phe bai unrhyw un ohonyn nhw wedi cael ei eni ym Mhrydain fyddai'r un ohonyn nhw erioed wedi cael y cyfle i reoli ar lefel uchel.

Pan gafodd Arsene Wenger ei benodi yn rheolwr Arsenal fe gafodd ei fychanu a'i wawdio gan bapur newydd y Sun, hynny yw nes i Glenn Hoddle ddatgan mai Wenger oedd un o'r hyfforddwyr gorau iddo erioed weithio ag o.

Bwrw eu prentisiaeth gyda thimau ieuenctid, gyda thimau o adrannau is neu yn achos Mourinho yn wreiddiol fel cyfieithydd i Bobby Robson yn Barcelona.

Anodd gweld sefyllfa ble bydd rywun fel Chris Wilder o Rydychen, Keith Hill o Rochdale neu Simon Grayson o Leeds byth yn cael cyfle gyda chlwb mawr go iawn oherwydd dydyn nhw ddim yn enwau digon mawr i rai o'r cefnogwyr.

Man City yn llenwi pocedi asiantwyr

Glyn Griffiths|16:50, Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

I'r pant y rhed y dŵr - ac i boced asiantwyr pêl-droed y rhed arian Manchester City.

Dengys cyhoeddiad Uwch Gynghrair Lloegr fod clwb Mark Hughes wedi talu bron £13 miliwn i asiantwyr mewn ffioedd am arwyddo chwaraewyr.

Petaech yn creu cynghrair yn ôl trefn gwariant ar ffioedd asiantwyr, fe gewch dabl sydd fwy neu lai yn adlewyrchu'r Uwch Gynghrair fel ag y mae heddiw yn ôl canlyniadau.

Chelsea ydi'r ail wariwr, Lerpwl yn drydydd, ac mae Tottenham yn bedwerydd, er bod gweld West Ham yn y pumed safle yn gwneud i rywun ofyn faint o gymorth a fu'r asiantwyr iddy'nhw!

Ychydig dros £1 miliwn mae Manchester United wedi ei wario gan eu gadael yn bymthegfed safle allan o ugain yn rhestr y 'big spenders'. Tybed a yw hyn yn adlewyrchu polisi magu ieuenctid llwyddiannus, neu a ydi Syr Alex yn gwybod yn well na llawer sut i drin asiantwyr! Wedi'r cwbwl, mae ei fab Jason yn ohonynt!

Mae Porstmouth wedi gwario dros £3 miliwn ac yn wythfed yn y rhestr - ond er y gwario ar asiantwyr, ymddengys fod y clwb yn ei chael yn anodd i dalu'r chwaraewyr erbyn hyn!

Gwers i'w ddysgu hwyrach?

Beth ydi eich barn chi?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.