Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Sut i adio a thynnu ffracsiynau

Part ofMathemategRhif

Hafaliad yn dangos bod dau dros naw adio pump dros naw yn hafal i saith dros naw.

Adio a thynnu ffracsiynau

Enwaduron cyffredin

Mae’n hawdd adio a thynnu ffracsiynau pan fo’r rhifau o dan y llinell yr un fath.

Yr enwadur yw’r rhif o dan y llinell.

Hafaliad yn dangos bod dau dros naw adio pump dros naw yn hafal i saith dros naw.
Cyfrifiad yn dangos bod hanner adio traean yn hafal i bump chweched.

Ffracsiynau cyfwerth

Ond weithiau mae’r enwaduron yn wahanol.

Rhaid defnyddio ffracsiynau cyfwerth i’w gwneud nhw yr un fath.

Lluosrif cyffredin i 2 a 3 ydy 6.

Felly, ar gyfer pob ffracsiwn mae angen ffracsiwn cyfwerth gyda 6 yn enwadur.

Nawr gelli di adio’r rhain gyda’i gilydd.

Cyfrifiad yn dangos bod hanner adio traean yn hafal i bump chweched.

More on Rhif

Find out more by working through a topic