Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Part ofHanes

  • Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

    • Achosion trosedd

      Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn troseddu. Mae rhai o’r achosion yma wedi bodoli erioed, megis trachwant, tlodi a chaledi economaidd. Mae achosion trosedd eraill wedi newid ers 1500. Beth oedd prif achosion trosedd dros amser?

    • Natur troseddau

      Mae rhai troseddau wedi bodoli erioed ac mae eraill yn perthyn i gyfnodau penodol mewn hanes. Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi bod yn wahanol ac wedi newid dros amser?

    • Gorfodi cyfraith a threfn

      Cyn y 19eg ganrif nid oedd yna heddluoedd oedd yn cael eu cyllido gan y wladwriaeth. Yn yr oes fodern, mae gennym heddluoedd ym mhob rhan o’r wlad. Sut mae’r cyfrifoldeb yma am orfodi cyfraith a threfn wedi newid gydag amser?

    • Dulliau o ymladd trosedd

      Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw’n fwy effeithiol nag eraill. Mae’r dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

    • Agweddau tuag at gosbi

      Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae’r hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

    • Dulliau cosbi

      Roedd y dulliau cosbi a ddefnyddiwyd yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid yn seiliedig ar gosb eithaf a chosb gorfforol gyhoeddus. Gydag amser mae’r ffocws wedi newid, a charcharu yw ein prif ddull o gosbi erbyn heddiw. Sut mae dulliau cosbi wedi newid dros amser?