Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Sut i adio a thynnu ffracsiynau

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga ddefnyddio sgiliau rhif i adio a thynnu ffracsiynau sydd â’r un enwadur.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn to use number skills to add and subtract fractions with the same denominator.

This lesson includes:

  • one video
  • three activities
Llinell / Line

Fideo / Video

Mae gofodwr yn defnyddio ffracsiynau i gyfrifo a oes digon o danwydd ganddo.

An astronaut uses fractions to calculate if he has enough fuel to get home.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, dylai'r disgyblion wybod:

  • mai enwadur yw enw'r rhif ar waelod ffracsiwn
  • bod angen i'r enwadur fod yr un peth er mwyn gallu adio ffracsiynau
  • bod modd adio ffracsiynau gyda'r un enwadur trwy adio'r rhifiaduron
  • os oes enwaduron gwahanol gan y ffracsiynau, yna rhaid eu trosi i ffracsiynau cyfwerth gydag enwaduron yr un peth er mwyn eu hadio

Notes for parents

After watching the video, students should know:

  • that the number at the bottom of a fraction is called the denominator
  • that the denominator needs to be the same in order to add fractions
  • that fractions with the same denominator can be added by adding the numerators
  • that if fractions have different denominators they need to be converted into equivalent fractions with the same denominator in order to add them
Llinell / Line
Hafaliad yn dangos bod dau dros naw adio pump dros naw yn hafal i saith dros naw.

Adio a thynnu ffracsiynau

Enwaduron cyffredin

Mae’n hawdd adio a thynnu ffracsiynau pan fo’r rhifau o dan y llinell yr un fath.

Yr enwadur yw’r rhif o dan y llinell.

Hafaliad yn dangos bod dau dros naw adio pump dros naw yn hafal i saith dros naw.
Cyfrifiad yn dangos bod hanner adio traean yn hafal i bump chweched.

Ffracsiynau cyfwerth

Ond weithiau mae’r enwaduron yn wahanol.

Rhaid defnyddio ffracsiynau cyfwerth i’w gwneud nhw yr un fath.

Lluosrif cyffredin i 2 a 3 ydy 6.

Felly, ar gyfer pob ffracsiwn mae angen ffracsiwn cyfwerth gyda 6 yn enwadur.

Nawr gelli di adio’r rhain gyda’i gilydd.

Cyfrifiad yn dangos bod hanner adio traean yn hafal i bump chweched.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Adia’r ffracsiynau.

Add the fractions.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Tynna’r ffracsiynau.

Subtract the fractions.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Adia’r ffracsiynau.

Add the fractions.

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU