Creu trafodaeth - Iaith trafodaeth

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i siarad yn eglur gan ddefnyddio iaith ffurfiol ac amrywio mynegiant, tôn a chryfder y llais, i gadw diddordeb y gwrandawyr.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • dau weithgaredd

Learning focus

Learn to speak clearly, using formal language, varying expression, tone and volume, to keep listeners interested.

This lesson includes:

  • two activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Iaith trafodaeth

Mae defnyddio iaith dda er mwyn trafod yn bwysig iawn. Rydyn ni'n defnyddio iaith swyddogol er mwyn bod yn benodol ynglŷn â beth sydd gennym ni i'w ddweud.

Dyma enghreifftiau o sut i ddechrau brawddeg mewn ffordd addas wrth gynnal trafodaeth:

  • Yn fy marn i…
  • Rydw i'n cytuno â…
  • Dydw i ddim yn cytuno â…
  • Y cwestiwn yw…
  • A dweud y gwir…
  • Mae lle i gredu
  • Mae pawb yn gwybod bod…
  • Pe bawn i'n y sefyllfa yna, fe fyddwn i…

Gallet ti hefyd ddefnyddio ymadroddion er mwyn datblygu dy drafodaeth ymhellach.

Ymadrodd yw dywediad neu osodiad byr, er enghraifft:

  • Heb os nag oni bai…
  • Heb flewyn ar dafod…
  • Yn bendant…

Weithiau, rydyn ni angen defnyddio brawddegau negyddol, hynny yw, dweud nad wyt ti'n cytuno gyda barn neu safbwynt penodol.

Dyma rai enghreifftiau o'r ffurfiau negyddol i ti:

CadarnhaolNegyddol
Dw i'n…Dydw i ddim yn…
Dw i wrth fy modd yn gwylio rhaglenni pop ar y teledu.Dydw i ddim yn hoffi gwylio rhaglenni pop ar y teledu.
Dylai…Ni ddylai… / Ddylai… ddim
Maen nhw'n gweithio'n hynod o galed ar ddatblygu maes chwarae cyffrous yn y pentref.Dydyn nhw ddim yn gweithio'n hynod o galed ar ddatblygu maes chwarae cyffrous yn y pentref.
Oes gan athrawon yr hawl i weithio plant mor galed yn yr ysgol?Does dim hawl gan athrawon i weithio plant mor galed yn yr ysgol.

Defnyddio dy lais

Mae'n bwysig amrywio tôn a goslef dy lais pan rwyt ti’n cyfrannu at drafodaeth. Dwyt ti ddim am i bawb fynd i gysgu pan rwyt ti’n siarad!

Defnyddia lais pendant a dyweda beth sydd gyda ti i'w ddweud yn gadarn. Mae defnyddio dy wyneb i greu ystyr yn help pan rwyt ti’n cyflawni hyn.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Cer ati i baratoi dadl am bwy ddylai gael yr hawl gyntaf ar y teledu yn y tŷ? Y plant neu'r oedolion? Sut mae gwneud yn siŵr fod pawb yn cael ei gyfle a bod neb yn teimlo ei fod yn cael cam?

Mae pawb yn hoffi rhaglenni gwahanol ar y teledu, er enghraifft:

  • plant – Stwnsh
  • Dad a Mam – Garddio a Mwy
  • Taid a Nain – Pobol y Cwm
Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Nawr, ar ôl i ti baratoi nodiadau, gofynna i oedolyn yn y tŷ i recordio dy gyflwyniad.

Edrycha ar dy fideo.

  • Oeddet ti’n amrywio tôn a goslef y llais?
  • Oeddet ti’n defnyddio llais pendant ac yn dweud beth sydd gyda ti i’w ddweud yn glir ac yn gadarn?

Os nad wyt ti'n hapus gyda dy gyflwyniad, recordia dy hun eto gan ganolbwyntio ar amrwyio tôn a goslef dy lais, a sicrhau dy fod yn defnyddio llais pendant wrth siarad yn glir ac yn gadarn.

The language of discussion

Using correct language is very important when taking part in a discussion. We use official language to be specific in terms of what we have to say.

Here are some examples of how to begin sentences in a suitable way when holding a discussion:

  • Yn fy marn i… (in my opinion…)
  • Rydw i'n cytuno â… (I agree with…)
  • Dydw i ddim yn cytuno â… (I don’t agree with…)
  • Y cwestiwn yw… (the question is…)
  • A dweud y gwir… (to tell you the truth…)
  • Mae lle i gredu… (there is reason to believe…)
  • Mae pawb yn gwybod bod… (everyone knows that…)
  • Pe bawn i'n y sefyllfa yna, fe fyddwn i… (if I were in that situation, I would…)

You could also use expressions to develop your discussion further.

An expression is a saying or a short statement, for example:

  • Heb os nac oni bai… (without a doubt…)
  • Heb flewyn ar dafod… (to be frank…)
  • Yn bendant… (certainly…)

Sometimes we need to use negative sentences, for example saying that you don’t agree with a particular view or opinion.

Here are some examples of negative forms:

CadarnhaolNegyddol
Dw i'n…Dydw i ddim yn…
Dw i wrth fy modd yn gwylio rhaglenni pop ar y teledu.Dydw i ddim yn hoffi gwylio rhaglenni pop ar y teledu.
Dylai…Ni ddylai… / Ddylai… ddim
Maen nhw'n gweithio'n hynod o galed ar ddatblygu maes chwarae cyffrous yn y pentref.Dydyn nhw ddim yn gweithio'n hynod o galed ar ddatblygu maes chwarae cyffrous yn y pentref.
Oes gan athrawon yr hawl i weithio plant mor galed yn yr ysgol?Does dim hawl gan athrawon i weithio plant mor galed yn yr ysgol.

Here's a translation of the table above.

PositiveNegative
I do…I don’t…
I love watching pop programmes on TV.I don't like watching pop programmes on TV.
… should…shouldn’t
They’re working very hard on developing an exciting playground in the village.They’re not working very hard on developing an exciting playground in the village.
Do teachers have a right to work children so hard at school?Teachers don’t have a right to work children so hard at school.

Using your voice

It’s important to vary your tone of voice when taking part in a discussion. You don’t want everyone to fall asleep when you’re speaking!

Use an assertive voice and say what you want to say with conviction. Using your face to create meaning helps when doing this.

Llinell / Line

Activity 1

Prepare a debate about who should have the first pick of the TV at home. The children or the adults? How do you make sure that everyone gets a chance and that nobody feels left out?

Everyone likes different programmes on the television, for example:

  • children – Stwnsh
  • Dad and Mam – Garddio a Mwy
  • Grandpa and Grandma – Pobol y Cwm
Llinell / Line

Activity 2

Now, after you have prepared your notes, ask an adult in the house to record your presentation.

Look at your video.

  • Did you vary the tone and intonation of your voice?
  • Did you use determination in your voice and say what you wanted to say strongly and clearly?

If you weren't happy with your presentation, why not record yourself again, and focus on varying the tone and intonation of your voice and speaking in a determined way with a strong clear voice?

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU