Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Charlie Chaplin a dylanwad y byd ffilm ar adloniant poblogaidd

Part ofLearn & revise

Charlie Chaplin (16 Ebrill, 1889)

Ffotograff o Charlie Chaplin
Image caption,
Charlie Chaplin

Mae Charlie Chaplin yn cael ei gydnabod fel un o'r eiconau mwyaf pwysig yn y diwydiant ffilm, a ddylanwadodd yn fawr ar ddatblygiad adloniant poblogaidd ar ddechrau'r 20fed ganrif.

America 1910-1929

Bu cyfnod o newid mawr yn niwylliant a chymdeithas America rhwng 1910 a 1929. Y sinema oedd y datblygiad mwyaf cyffrous yr adeg yma. Cafodd y sinema ddylanwad ar bobl mewn nifer o ffyrdd - o ran ffasiwn a'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn.

Roedd gan bob tref fechan sinema a byddai nifer fawr o Americanwyr, gyda mwy o amser hamdden ac ychydig o arian cyflog dros ben i'w wario oherwydd newidiadau mewn patrymau gweithio, yn mynd yno sawl gwaith yr wythnos am ei fod yn weddol rhad.

Yn ystod y 1920au cynnar roedd pob ffilm yn ddi-sain. Arferai sinemâu gyflogi cerddorion i ganu'r piano neu organ drydan yn ystod y ffilmiau.

Ymddangosodd Charlie Chaplin mewn llawer iawn o ffilmiau yn y cyfnod hwn, a daeth yn un o sêr cyntaf y byd ffilm yn Hollywood.

Daeth ei gymeriad 'The Little Tramp' yn ddelwedd adnabyddus ar draws y byd, a ddaeth a'r actor i enwogrwydd byd-eang, na welwyd byth o'r fath o'r blaen.

Ffeithiau am Charlie Chaplin

  • Cafodd ei eni yn Llundain ar 16 Ebrill, 1889.
  • Sylfaenodd y cwmni ffilmiau United Artists gyda Mary Pickford a Douglas Fairbanks yn 1919.
  • Serenodd mewn ffilmiau di-sain yn cynnwys The Tramp (1915) a The Kid (1921).
  • Roedd yn ysgrifennu, cyfarwyddo, cynhyrchu, golygu, a chyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y rhan fwyaf o'i ffilmiau.

BBC TWO

ICONS - Charlie Chaplin (Cynnwys Saesneg)

BBC TWO

BBC Sounds. podcast

The Forum - Charlie Chaplin (Cynnwys Saesneg)

BBC Sounds