
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau mesur i ganfod arwynebedd drwy gyfrif sgwariau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to use measuring skills to find areas by counting squares.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Sut i gyfrifo arwynebedd
Wyt ti'n iawn? Ti'n edrych ar goll.
Dwi'n trio cyfrifo faint o deils sydd eu hangen ar gyfer y wal 'ma, mêt.
Dwi'n siwr allwn ni wneud hynna.
Gall defnyddio sgwariau helpu.
Os yw hwn yn mesur un uned a hwn yn mesur un uned yna un lluosi un yw un sgwâr.
Beth am un arall?
Os yw hwn yn bum uned a hwn yn ddwy…
…yna pump lluosi dau yw deg, felly mae deg sgwâr gyda ni.
Gallwn ni wneud hyn ar gyfer unrhyw siâp ry ni am fesur lle mae'r onglau i gyd yn onglau sgwâr.
Mae dy wal yn chwe uned ar draws a phedair i fyny.
Felly os y'n ni'n lluosi chwech â phedwar cawn ni wybod sawl sgwâr sy' angen.
Chwech pedwar yw 24. 24 o deils.
Waw. O'dd hynna'n glou!
Nodiadau i rieni
- Wrth gyfrifo arwynebedd, gallwn ddefnyddio sgwariau i helpu. Mae un uned yn 1cm, felly mae pob sgwâr yn 1 cm x 1 cm = 1 cm sgwâr.
- Hynny yw, os yw hyd petryal yn 5 cm i fyny a 2 cm ar draws, yna arwynebedd y petryal yw 5 cm x 2 cm = 10 cm sgwâr.
- Gallwn wneud hyn ar gyfer unrhyw siâp sydd ag onglau sgwâr.
- Os mae’r siâp yn mesur 6 cm ar draws a 4 cm i fyny, arwynebedd y siâp yw 6 x 4 = 24 cm sgwâr.
Notes for parents
- When we measure area, we can use squares to help us. One unit is 1 cm, therefore every square is 1 cm x 1 cm = 1 cm squared.
- *So, if a rectangle is 5 cm up and 2 cm across then the area is 5 cm x 2 cm = 10 cm squared. *
- We can do this for any shape that has a right angle.
- If the shape measures 6 cm up and 4 cm across, the area of the shape is 6 x 4 = 24 cm squared.

Cyfrifo arwynebedd
I weithio allan beth yw arwynebedd sgwâr neu betryal, lluosa’i uchder gyda’i led.
Os yw’r uchder a’r lled mewn cm, bydd yr arwynebedd mewn cm². Os yw’r uchder a’r lled mewn m, bydd yr arwynebedd mewn m².
Mae gan sgwâr sydd ag ochrau 5 m arwynebedd o 25 m², achos mae 5 × 5 = 25.

Gweithgaredd / Activity
Gweithia allan beth yw nifer y teils ym mhob siâp.
Work out the number of tiles in each shape.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
