Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Beth yw lluosrifau?

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio sgiliau rhif er mwyn adnabod lluosrifau hyd at 10.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • dau weithgaredd

Learning focus

Learn how to use number skills in order to identify multiples of numbers up to 10.

This lesson includes:

  • one video
  • two activities
Llinell / Line

Fideo / Video

Mae mwnci o wyddonydd yn creu 'mochbotiau' i esbonio lluosrifau.

A monkey scientist creates robot pigs to explain multiples.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, dylai'r disgyblion wybod:

  • bod lluosrifau fel tablau wedi eu hymestyn
  • bod lluosrifau o 2 yn gorffen mewn eilrif bob tro
  • bod digid olaf lluosrifau o bump yn gorffen gyda 5 neu 0 bob tro

Notes for parents

After watching the video, students should know:

  • that multiples are like extended multiplication tables
  • that multiples of 2 always end with an even number
  • that multiples of five always end with a 5 or a 0
Llinell / Line
Doctor mwnci yn sefyll drws nesa i lusorifau dau.

Lluosrifau

Y cwbl yw lluosrifau mewn gwirionedd yw tablau lluosi wedi’u hymestyn.

Lluosrifau 2 yw pob rhif yn nhabl 2, sef 2, 4, 6, 8, 10 ac yn y blaen.

Bydd lluosrifau 2 bob amser yn diweddu gyda 2, 4, 6, 8 neu 0. Gelli di ddweud bod 2286, er enghraifft, yn lluosrif i 2 am ei fod yn diweddu gyda 6.

Lluosrifau 5 yw pob rhif yn nhabl 5, sef 5, 10, 15, 20, 25 ac yn y blaen.

Bydd lluosrifau 5 bob amser yn diweddu gyda 5 neu 0. Gelli di ddweud bod 465, er enghraifft, yn lluosrif i 5 am ei fod yn diweddu gyda 5.

Doctor mwnci yn sefyll drws nesa i lusorifau dau.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Trefna luosrifau 2, o’r isaf i’r uchaf.

Order the multiples of 2, from lowest to highest.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Trefna luosrifau 5, o’r isaf i’r uchaf.

Order the multiples of 5, from lowest to highest.

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU